Mathew 5:29-30
Mathew 5:29-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Os yw dy lygad de yn achos cwymp iti, tyn ef allan a'i daflu oddi wrthyt; y mae'n fwy buddiol iti golli un o'th aelodau na bod dy gorff cyfan yn cael ei daflu i uffern. Ac os yw dy law dde yn achos cwymp iti, tor hi ymaith a'i thaflu oddi wrthyt; y mae'n fwy buddiol iti golli un o'th aelodau na bod dy gorff cyfan yn mynd i uffern.
Mathew 5:29-30 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac os dy lygad deau a’th rwystra, tyn ef allan, a thafl oddi wrthyt: canys da i ti golli un o’th aelodau, ac na thafler dy holl gorff i uffern. Ac os dy law ddeau a’th rwystra, tor hi ymaith, a thafl oddi wrthyt: canys da i ti golli un o’th aelodau, ac na thafler dy holl gorff i uffern.
Mathew 5:29-30 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Os ydy dy lygad orau yn gwneud i ti bechu, tynna hi allan a’i thaflu i ffwrdd. Mae’n well i ti golli rhan fach o dy gorff nag i dy gorff cyfan gael ei daflu i uffern. Ac os ydy dy law gryfaf yn gwneud i ti bechu, torra hi i ffwrdd a’i thaflu ymaith. Mae’n well i ti golli rhan o dy gorff nag i dy gorff cyfan gael ei daflu i uffern.