Mathew 6:20-22 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion
Mathew 6:20-22 BNET (beibl.net 2015, 2024)
Casglwch drysorau i chi’ch hunain yn y nefoedd – all gwyfyn a rhwd ddifetha dim byd yno, a does dim lladron yno i ddwyn dim byd. Lle bynnag mae dy drysor di y bydd dy galon di. “Y llygad ydy lamp y corff. Felly, mae llygad iach (sef bod yn hael) yn gwneud dy gorff yn olau drwyddo.
Mathew 6:20-22 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Casglwch ichwi drysorau yn y nef, lle nad yw gwyfyn na rhwd yn difa, a lle nad yw lladron yn torri trwodd nac yn lladrata. Oherwydd lle mae dy drysor, yno hefyd y bydd dy galon. “Y llygad yw cannwyll y corff; felly os bydd dy lygad yn hael, bydd dy gorff yn llawn goleuni.
Mathew 6:20-22 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr trysorwch i chwi drysorau yn y nef, lle nid oes na gwyfyn na rhwd yn llygru, a lle ni chloddia lladron trwodd ac ni ladratânt. Canys lle y mae eich trysor, yno y bydd eich calon hefyd. Cannwyll y corff yw’r llygad: am hynny o bydd dy lygad yn syml, dy holl gorff fydd yn olau.