Mathew 6:25-26 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion
Mathew 6:25-26 BNET (beibl.net 2015, 2024)
“Felly, dyma dw i’n ddweud – peidiwch poeni beth i’w fwyta a beth i’w yfed a beth i’w wisgo. Onid oes mwy i fywyd na bwyd a dillad? Meddyliwch am adar er enghraifft: Dŷn nhw ddim yn hau nac yn medi nac yn storio mewn ysguboriau – ac eto mae eich Tad nefol yn eu bwydo nhw. Dych chi’n llawer mwy gwerthfawr na nhw.
Mathew 6:25-26 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
“Am hynny rwy'n dweud wrthych, peidiwch â phryderu am eich bywyd, beth i'w fwyta na'i yfed, nac am eich corff, beth i'w wisgo; onid oes mwy i fywyd rhywun na bwyd, a mwy i'w gorff na dillad? Edrychwch ar adar yr awyr: nid ydynt yn hau nac yn medi nac yn casglu i ysguboriau, ac eto y mae eich Tad nefol yn eu bwydo. Onid ydych chwi yn llawer mwy gwerthfawr na hwy?
Mathew 6:25-26 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny meddaf i chwi, Na ofelwch am eich bywyd, pa beth a fwytaoch, neu pa beth a yfoch; neu am eich corff, pa beth a wisgoch. Onid yw’r bywyd yn fwy na’r bwyd, a’r corff yn fwy na’r dillad? Edrychwch ar adar y nefoedd: oblegid nid ydynt yn hau, nac yn medi, nac yn cywain i ysguboriau; ac y mae eich Tad nefol yn eu porthi hwy. Onid ydych chwi yn rhagori llawer arnynt hwy?