Mathew 7:1-5
Mathew 7:1-5 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Peidiwch bod yn feirniadol o bobl eraill, ac wedyn wnaiff Duw mo’ch barnu chi. Oherwydd cewch chi’ch barnu yn yr un ffordd â dych chi’n barnu pobl eraill. Y pren mesur dych chi’n ei ddefnyddio ar bobl eraill fydd yn cael ei ddefnyddio arnoch chi. “Pam wyt ti’n poeni am y sbecyn o flawd llif sydd yn llygad rhywun arall, pan mae trawst o bren yn sticio allan o dy lygad dy hun!? Sut alli di ddweud, ‘Gad i mi dynnu’r sbecyn yna allan o dy lygad di,’ pan mae trawst yn sticio allan o dy lygad dy hun? Rwyt ti mor ddauwynebog! Tynna’r trawst allan o dy lygad dy hun yn gyntaf, ac wedyn byddi’n gweld yn ddigon clir i dynnu’r sbecyn allan o lygad y person arall.
Mathew 7:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Peidiwch â barnu, rhag ichwi gael eich barnu; oherwydd fel y byddwch chwi'n barnu y cewch chwithau eich barnu, ac â'r mesur a rowch y rhoir i chwithau. Pam yr wyt yn edrych ar y brycheuyn sydd yn llygad dy gyfaill, a thithau heb sylwi ar y trawst sydd yn dy lygad dy hun? Neu sut y dywedi wrth dy gyfaill, ‘Gad imi dynnu allan y brycheuyn o'th lygad di’, a dyna drawst yn dy lygad dy hun? Ragrithiwr, yn gyntaf tyn y trawst allan o'th lygad dy hun, ac yna fe weli yn ddigon eglur i dynnu'r brycheuyn o lygad dy gyfaill.
Mathew 7:1-5 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Na fernwch, fel na’ch barner: Canys â pha farn y barnoch, y’ch bernir; ac â pha fesur y mesuroch, yr adfesurir i chwithau. A phaham yr wyt yn edrych ar y brycheuyn sydd yn llygad dy frawd, ac nad ydwyt yn ystyried y trawst sydd yn dy lygad dy hun? Neu pa fodd y dywedi wrth dy frawd, Gad imi fwrw allan y brycheuyn o’th lygad; ac wele drawst yn dy lygad dy hun? O ragrithiwr, bwrw allan yn gyntaf y trawst o’th lygad dy hun; ac yna y gweli’n eglur fwrw y brycheuyn allan o lygad dy frawd.