Mathew 8:9 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion
Mathew 8:9 BNET (beibl.net 2015, 2024)
Mae swyddogion uwch fy mhen i yn rhoi gorchmynion i mi, ac mae gen innau filwyr odanaf fi. Dw i’n dweud ‘Dos’ wrth un, ac mae’n mynd; ‘Tyrd yma’ wrth un arall ac mae’n dod. Dw i’n dweud ‘Gwna hyn’ wrth fy ngwas, ac mae’n ei wneud.”
Rhanna
Mathew 8 BNETMathew 8:9 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd dyn sydd dan awdurdod wyf finnau, a chennyf filwyr danaf; byddaf yn dweud wrth hwn, ‘Dos’, ac fe â, ac wrth un arall, ‘Tyrd’, ac fe ddaw, ac wrth fy ngwas, ‘Gwna hyn’, ac fe'i gwna.”
Rhanna
Mathew 8 BCNDMathew 8:9 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys dyn ydwyf finnau dan awdurdod, a chennyf filwyr danaf: a dywedaf wrth hwn, Cerdda, ac efe a â; ac wrth arall, Tyred, ac efe a ddaw; ac wrth fy ngwas, Gwna hyn, ac efe a’i gwna.
Rhanna
Mathew 8 BWM