Mathew 9:15 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion
Mathew 9:15 BNET (beibl.net 2015, 2024)
Atebodd Iesu nhw, “Dydy pobl ddim yn mynd i wledd briodas i fod yn drist ac i alaru! Maen nhw yno i ddathlu gyda’r priodfab! Ond bydd y priodfab yn cael ei gymryd i ffwrdd oddi wrthyn nhw, a byddan nhw’n ymprydio bryd hynny.
Rhanna
Mathew 9 BNETMathew 9:15 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd Iesu wrthynt, “A all gwesteion priodas alaru cyhyd ag y mae'r priodfab gyda hwy? Ond fe ddaw dyddiau pan ddygir y priodfab oddi wrthynt, ac yna yr ymprydiant.
Rhanna
Mathew 9 BCNDMathew 9:15 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, A all plant yr ystafell briodas alaru tra fo’r priodfab gyda hwynt? ond y dyddiau a ddaw, pan ddyger y priodfab oddi arnynt, ac yna yr ymprydiant.
Rhanna
Mathew 9 BWM