Mathew 9:27-31
Mathew 9:27-31 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Pan aeth Iesu yn ei flaen oddi yno dyma ddau ddyn dall yn ei ddilyn, gan weiddi’n uchel, “Helpa ni, Fab Dafydd!” Ar ôl mynd i mewn i’r tŷ, dyma’r dynion yn dod ato, a gofynnodd iddyn nhw, “Ydych chi’n credu go iawn y galla i wneud hyn?” “Ydyn, Arglwydd,” medden nhw. Yna cyffyrddodd eu llygaid nhw a dweud, “Cewch beth dych wedi’i gredu sy’n bosib,” ac roedden nhw’n gallu gweld eto. Dyma Iesu’n eu rhybuddio’n llym, “Gwnewch yn siŵr fod neb yn gwybod am hyn.” Ond pan aethon nhw allan, dyma nhw’n dweud wrth bawb drwy’r ardal i gyd amdano.
Mathew 9:27-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Wrth i Iesu fynd oddi yno dilynodd dau ddyn dall ef gan weiddi, “Trugarha wrthym ni, Fab Dafydd.” Wedi iddo ddod i'r tŷ daeth y deillion ato, a gofynnodd Iesu iddynt, “A ydych yn credu y gallaf wneud hyn?” Dywedasant wrtho, “Ydym, syr.” Yna cyffyrddodd â'u llygaid a dweud, “Yn ôl eich ffydd boed i chwi.” Agorwyd eu llygaid, a rhybuddiodd Iesu hwy yn llym, “Gofalwch na chaiff neb wybod.” Ond aethant allan a thaenu'r hanes amdano yn yr holl ardal honno.
Mathew 9:27-31 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A phan oedd yr Iesu yn myned oddi yno, dau ddeillion a’i canlynasant ef, gan lefain a dywedyd, Mab Dafydd, trugarha wrthym. Ac wedi iddo ddyfod i’r tŷ, y deillion a ddaethant ato: a’r Iesu a ddywedodd wrthynt, a ydych chwi yn credu y gallaf fi wneuthur hyn? Hwy a ddywedasant wrtho, Ydym, Arglwydd. Yna y cyffyrddodd efe â’u llygaid hwy, gan ddywedyd, Yn ôl eich ffydd bydded i chwi. A’u llygaid a agorwyd: a’r Iesu a orchmynnodd iddynt trwy fygwth, gan ddywedyd, Gwelwch nas gwypo neb. Ond wedi iddynt ymado, hwy a’i clodforasant ef trwy’r holl wlad honno.