Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mathew 9:35-38 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Mathew 9:35-38 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Roedd Iesu’n teithio o gwmpas yr holl drefi a’r pentrefi yn dysgu’r bobl yn eu synagogau, yn cyhoeddi’r newyddion da am deyrnasiad Duw ac yn iacháu pob afiechyd a salwch. Roedd gweld tyrfaoedd o bobl yn ei gyffwrdd i’r byw, am eu bod fel defaid heb fugail, ar goll ac yn gwbl ddiymadferth. Ac meddai wrth ei ddisgyblion, “Mae’r cynhaeaf mor fawr, a’r gweithwyr mor brin! Felly, gofynnwch i Arglwydd y cynhaeaf anfon mwy o weithwyr i’w feysydd.”

Mathew 9:35-38 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Yr oedd Iesu'n mynd o amgylch yr holl drefi a'r pentrefi, dan ddysgu yn eu synagogau hwy, a phregethu efengyl y deyrnas, ac iacháu pob afiechyd a phob llesgedd. A phan welodd ef y tyrfaoedd tosturiodd wrthynt am eu bod yn flinderus a diymadferth fel defaid heb fugail. Yna meddai wrth ei ddisgyblion, “Y mae'r cynhaeaf yn fawr ond y gweithwyr yn brin; deisyfwch felly ar Arglwydd y cynhaeaf anfon gweithwyr i'w gynhaeaf.”

Mathew 9:35-38 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

A’r Iesu a aeth o amgylch yr holl ddinasoedd a’r trefydd, gan ddysgu yn eu synagogau hwynt, a chan bregethu efengyl y deyrnas, a iacháu pob clefyd a phob afiechyd ymhlith y bobl. A phan welodd efe y torfeydd, efe a dosturiodd wrthynt, am eu bod wedi blino, a’u gwasgaru, fel defaid heb ganddynt fugail. Yna y dywedodd efe wrth ei ddisgyblion, Y cynhaeaf yn ddiau sydd fawr, ond y gweithwyr yn anaml: Am hynny atolygwch i Arglwydd y cynhaeaf anfon gweithwyr i’w gynhaeaf.