Micha 3:11
Micha 3:11 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ei phenaethiaid a roddant farn er gwobr, a’i hoffeiriaid a ddysgant er cyflog, a’r proffwydi a ddewiniant er arian; eto wrth yr ARGLWYDD yr ymgynhaliant, gan ddywedyd, Onid yw yr ARGLWYDD i’n plith? ni ddaw drwg arnom.
Rhanna
Darllen Micha 3Micha 3:11 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae’r barnwyr yn derbyn breib, yr offeiriaid yn dysgu am elw, a’r proffwydi’n dehongli am dâl – tra’n honni pwyso ar yr ARGLWYDD! “Mae’r ARGLWYDD gyda ni!” medden nhw. “Does wir ddim dinistr i ddod!”
Rhanna
Darllen Micha 3Micha 3:11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Y mae ei phenaethiaid yn barnu yn ôl y tâl, ei hoffeiriaid yn cyfarwyddo yn ôl y wobr, ei phroffwydi yn cyflwyno neges yn ôl yr arian; ac eto, pwysant ar yr ARGLWYDD, a dweud, “Onid yw'r ARGLWYDD yn ein mysg? Ni ddaw drwg arnom.”
Rhanna
Darllen Micha 3