Micha 3:9-12
Micha 3:9-12 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Gwrandwch, arweinwyr Jacob, chi sy’n arwain pobl Israel – chi sy’n casáu cyfiawnder ac yn gwyrdroi’r gwir. Dych chi’n adeiladu Seion drwy drais, a Jerwsalem drwy lygredd a thwyll. Mae’r barnwyr yn derbyn breib, yr offeiriaid yn dysgu am elw, a’r proffwydi’n dehongli am dâl – tra’n honni pwyso ar yr ARGLWYDD! “Mae’r ARGLWYDD gyda ni!” medden nhw. “Does wir ddim dinistr i ddod!” Felly chi sydd ar fai! Bydd Seion yn cael ei haredig fel cae, a bydd Jerwsalem yn bentwr o gerrig. Bydd y bryn ble mae’r deml yn sefyll yn goedwig wedi tyfu’n wyllt.
Micha 3:9-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Clywch hyn, benaethiaid Jacob, arweinwyr tŷ Israel, chwi sy'n casáu cyfiawnder ac yn gwyrdroi pob uniondeb, yn adeiladu Seion trwy dywallt gwaed a Jerwsalem trwy dwyll. Y mae ei phenaethiaid yn barnu yn ôl y tâl, ei hoffeiriaid yn cyfarwyddo yn ôl y wobr, ei phroffwydi yn cyflwyno neges yn ôl yr arian; ac eto, pwysant ar yr ARGLWYDD, a dweud, “Onid yw'r ARGLWYDD yn ein mysg? Ni ddaw drwg arnom.” Am hynny, o'ch achos chwi bydd Seion yn faes wedi ei aredig, a Jerwsalem yn garneddau, a mynydd y deml yn fynydd-dir coediog.
Micha 3:9-12 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Gwrandewch hyn, atolwg, penaethiaid tŷ Jacob, a thywysogion tŷ Israel, y rhai sydd ffiaidd ganddynt farn, ac yn gwyro pob uniondeb. Adeiladu Seion y maent â gwaed, a Jerwsalem ag anwiredd. Ei phenaethiaid a roddant farn er gwobr, a’i hoffeiriaid a ddysgant er cyflog, a’r proffwydi a ddewiniant er arian; eto wrth yr ARGLWYDD yr ymgynhaliant, gan ddywedyd, Onid yw yr ARGLWYDD i’n plith? ni ddaw drwg arnom. Am hynny o’ch achos chwi yr erddir Seion fel maes, a Jerwsalem a fydd yn garneddau, a mynydd y tŷ fel uchel leoedd y goedwig.