Micha 4:9-13
Micha 4:9-13 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ond nawr, pam wyt ti’n gweiddi a sgrechian? Oes gen ti ddim brenin i dy helpu? Ydy dy arweinydd doeth di wedi marw? Ai dyna pam ti’n gwingo mewn poen fel gwraig ar fin cael babi? Gwingwch a gwaeddwch, bobl Seion, fel gwraig mewn poen wrth gael babi! Bydd rhaid i chi adael y ddinas a gwersylla yng nghefn gwlad, ar eich ffordd i Babilon. Ond yno bydd yr ARGLWYDD yn eich achub, a’ch gollwng yn rhydd o afael y gelyn. Ar hyn o bryd mae gwledydd lawer wedi casglu i ymladd yn dy erbyn. “Rhaid dinistrio Jerwsalem,” medden nhw. “Cawn ddathlu wrth weld Seion yn syrthio!” Ond dŷn nhw ddim yn gwybod beth ydy bwriad yr ARGLWYDD! Dŷn nhw ddim yn deall ei gynllun e – i’w casglu nhw fel gwenith i’r llawr dyrnu! Tyrd i ddyrnu, ferch Seion! Dw i’n mynd i roi cyrn o haearn a charnau o bres i ti; a byddi’n sathru llawer o wledydd. Byddi’n rhoi’r ysbail i gyd i’r ARGLWYDD, ac yn cyflwyno eu cyfoeth i Feistr y ddaear gyfan.
Micha 4:9-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Pam yn awr yr wyt yn llefain yn uchel? Onid oes gennyt frenin? A yw dy gynghorwyr wedi darfod, nes bod poenau, fel gwewyr gwraig yn esgor, wedi cydio ynot?” “Gwinga a gwaedda, ferch Seion, fel gwraig yn esgor, oherwydd yn awr byddi'n mynd o'r ddinas ac yn byw yn y maes agored; byddi'n mynd i Fabilon. Yno fe'th waredir; yno bydd yr ARGLWYDD yn dy achub o law d'elynion.” “Yn awr y mae llawer o genhedloedd wedi ymgasglu yn dy erbyn, ac yn dweud, ‘Haloger hi, a chaed ein llygaid weld eu dymuniad ar Seion.’ Ond nid ydynt hwy'n gwybod meddyliau'r ARGLWYDD, nac yn deall ei fwriad, oherwydd y mae ef wedi eu casglu fel ysgubau i'r llawr dyrnu. Cod i ddyrnu, ferch Seion, oherwydd gwnaf dy gorn o haearn a'th garnau o bres, ac fe fethri bobloedd lawer; yn ddiofryd i'r ARGLWYDD y gwneir eu helw, a'u cyfoeth i Arglwydd yr holl ddaear.”
Micha 4:9-13 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Paham gan hynny y gwaeddi waedd? onid oes ynot frenin? a ddarfu am dy gynghorydd? canys gwewyr a’th gymerodd megis gwraig yn esgor. Ymofidia a griddfana, merch Seion, fel gwraig yn esgor: oherwydd yr awr hon yr ei di allan o’r ddinas, a thrigi yn y maes; ti a ei hyd Babilon: yno y’th waredir; yno yr achub yr ARGLWYDD di o law dy elynion. Yr awr hon hefyd llawer o genhedloedd a ymgasglasant i’th erbyn, gan ddywedyd, Haloger hi, a gweled ein llygaid hynny ar Seion. Ond ni wyddant hwy feddyliau yr ARGLWYDD, ac ni ddeallant ei gyngor ef: canys efe a’u casgl hwynt fel ysgubau i’r llawr dyrnu. Cyfod, merch Seion, a dyrna; canys gwnaf dy gorn yn haearn, a’th garnau yn bres; a thi a ddrylli bobloedd lawer: a chysegraf i’r ARGLWYDD eu helw hwynt, a’u golud i ARGLWYDD yr holl ddaear.