Marc 11:23-24
Marc 11:23-24 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Credwch chi fi, does ond rhaid i chi ddweud wrth y mynydd yma, ‘Dos, a thaflu dy hun i’r môr’ – heb amau o gwbl, dim ond credu y gwnaiff ddigwydd – a bydd yn digwydd! Felly dw i’n dweud wrthoch chi, cewch beth bynnag dych chi’n gofyn amdano wrth weddïo, dim ond i chi gredu y byddwch yn ei dderbyn.
Marc 11:23-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
yn wir, rwy'n dweud wrthych, pwy bynnag a ddywed wrth y mynydd hwn, ‘Coder di a bwrier di i'r môr’, heb amau yn ei galon, ond credu y digwydd yr hyn a ddywed, fe'i rhoddir iddo. Gan hynny rwy'n dweud wrthych, beth bynnag oll yr ydych yn gweddïo ac yn gofyn amdano, credwch eich bod wedi ei dderbyn, ac fe'i rhoddir i chwi.
Marc 11:23-24 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Canys yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi, Pwy bynnag a ddywedo wrth y mynydd hwn, Tynner di ymaith, a bwrier di i’r môr; ac nid amheuo yn ei galon, ond credu y daw i ben y pethau a ddywedo efe; beth bynnag a ddywedo, a fydd iddo. Am hynny meddaf i chwi, Beth bynnag oll a geisioch wrth weddïo credwch y derbyniwch, ac fe fydd i chwi.