Marc 12:29-31
Marc 12:29-31 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Atebodd Iesu, “Y gorchymyn pwysica ydy hwn: ‘Gwrando Israel! Yr Arglwydd ein Duw ydy’r unig Arglwydd. Rwyt i garu’r Arglwydd dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid, â’th holl feddwl ac â’th holl nerth.’ A’r ail ydy: ‘Rwyt i garu dy gymydog fel rwyt ti’n dy garu dy hun.’ Does dim un gorchymyn sy’n bwysicach na’r rhain.”
Marc 12:29-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Atebodd Iesu, “Y cyntaf yw, ‘Gwrando, O Israel, yr Arglwydd ein Duw yw'r unig Arglwydd, a châr yr Arglwydd dy Dduw â'th holl galon ac â'th holl enaid ac â'th holl feddwl ac â'th holl nerth.’ Yr ail yw hwn, ‘Câr dy gymydog fel ti dy hun.’ Nid oes gorchymyn arall mwy na'r rhain.”
Marc 12:29-31 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A’r Iesu a atebodd iddo, Y cyntaf o’r holl orchmynion yw, Clyw, Israel; Yr Arglwydd ein Duw, un Arglwydd yw: A châr yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid, ac â’th holl feddwl, ac â’th holl nerth. Hwn yw’r gorchymyn cyntaf. A’r ail sydd gyffelyb iddo; Câr dy gymydog fel ti dy hun. Nid oes orchymyn arall mwy na’r rhai hyn.