Marc 12:38-40 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion
Marc 12:38-40 BNET (beibl.net 2015, 2024)
Dyma rai pethau eraill ddysgodd Iesu iddyn nhw, “Gwyliwch yr arbenigwyr yn y Gyfraith. Maen nhw wrth eu bodd yn cerdded o gwmpas yn swancio yn eu gwisgoedd swyddogol, a chael pawb yn eu cyfarch ac yn talu sylw iddyn nhw yn y farchnad. Mae’n rhaid iddyn nhw gael y seddi gorau yn y synagogau, ac eistedd ar y bwrdd uchaf mewn gwleddoedd. Maen nhw’n dwyn popeth oddi ar wragedd gweddwon ac wedyn yn ceisio rhoi’r argraff eu bod nhw’n dduwiol gyda’u gweddïau hir! Bydd pobl fel nhw yn cael eu cosbi’n llym.”
Marc 12:38-40 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac wrth eu dysgu, meddai, “Ymogelwch rhag yr ysgrifenyddion sy'n hoffi rhodianna mewn gwisgoedd llaes, a chael cyfarchiadau yn y marchnadoedd, a'r prif gadeiriau yn y synagogau, a'r seddau anrhydedd mewn gwleddoedd. Dyma'r rhai sy'n difa cartrefi gwragedd gweddwon, ac mewn rhagrith yn gweddïo'n faith; fe dderbyn y rhain drymach dedfryd.”
Marc 12:38-40 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd wrthynt yn ei athrawiaeth, Ymogelwch rhag yr ysgrifenyddion, y rhai a chwenychant rodio mewn gwisgoedd llaesion, a chael cyfarch yn y marchnadoedd, A’r prif gadeiriau yn y synagogau, a’r prif eisteddleoedd mewn swperau; Y rhai sydd yn llwyr fwyta tai gwragedd gweddwon, ac mewn rhith yn hir weddïo: y rhai hyn a dderbyniant farnedigaeth fwy.