Marc 12:41-44
Marc 12:41-44 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Eisteddodd Iesu gyferbyn â’r blychau casglu lle roedd pobl yn cyfrannu arian i drysorfa’r deml, a gwylio’r dyrfa yn rhoi eu harian yn y blychau. Roedd llawer o bobl gyfoethog yn rhoi arian mawr. Ond yna daeth gwraig weddw dlawd a rhoi dwy geiniog i mewn (oedd yn werth dim byd bron). Dyma Iesu’n galw’i ddisgyblion ato a dweud, “Credwch chi fi, mae’r wraig weddw dlawd yna wedi rhoi mwy nag unrhyw un arall. Newid mân oedd pawb arall yn ei roi, gan fod ganddyn nhw hen ddigon dros ben. Ond rhoddodd hon y cwbl oedd ganddi i fyw arno.”
Marc 12:41-44 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Eisteddodd i lawr gyferbyn â chist y drysorfa, ac yr oedd yn sylwi ar y modd yr oedd y dyrfa yn rhoi arian i mewn yn y gist. Yr oedd llawer o bobl gyfoethog yn rhoi yn helaeth. A daeth gweddw dlawd a rhoi dau ddarn bychan o bres, gwerth chwarter ceiniog. Galwodd ei ddisgyblion ato a dywedodd wrthynt, “Yn wir, rwy'n dweud wrthych fod y weddw dlawd hon wedi rhoi mwy na phawb arall sy'n rhoi i'r drysorfa. Oherwydd rhoi a wnaethant hwy i gyd o'r mwy na digon sydd ganddynt, ond rhoddodd hon o'i phrinder y cwbl oedd ganddi i fyw arno.”
Marc 12:41-44 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A’r Iesu a eisteddodd gyferbyn â’r drysorfa, ac a edrychodd pa fodd yr oedd y bobl yn bwrw arian i’r drysorfa: a chyfoethogion lawer a fwriasant lawer. A rhyw wraig weddw dlawd a ddaeth, ac a fwriodd i mewn ddwy hatling, yr hyn yw ffyrling. Ac efe a alwodd ei ddisgyblion ato, ac a ddywedodd wrthynt, Yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi, fwrw o’r wraig weddw dlawd hon i mewn fwy na’r rhai oll a fwriasant i’r drysorfa. Canys hwynt-hwy oll a fwriasant o’r hyn a oedd yng ngweddill ganddynt: ond hon o’i heisiau a fwriodd i mewn yr hyn oll a feddai, sef ei holl fywyd.