Marc 14:32-39
Marc 14:32-39 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma Iesu’n mynd gyda’i ddisgyblion i le o’r enw Gethsemane. “Eisteddwch chi yma,” meddai wrthyn nhw, “dw i’n mynd i weddïo.” Aeth a Pedr, Iago ac Ioan gydag e, a dechreuodd brofi dychryn a gwewyr meddwl oedd yn ei lethu. “Mae’r tristwch dw i’n ei deimlo yn ddigon i’m lladd i,” meddai wrthyn nhw. “Arhoswch yma a gwylio.” Aeth yn ei flaen ychydig, a syrthio ar lawr a gweddïo i’r profiad ofnadwy oedd o’i flaen fynd i ffwrdd petai hynny’n bosib. “ Abba ! Dad!” meddai, “Mae popeth yn bosib i ti. Cymer y cwpan chwerw yma oddi arna i. Ond paid gwneud beth dw i eisiau, gwna beth rwyt ti eisiau.” Pan aeth yn ôl at ei ddisgyblion roedden nhw’n cysgu. A meddai wrth Pedr, “Simon, wyt ti’n cysgu? Allet ti ddim cadw golwg am un awr fechan? Cadwch yn effro, a gweddïwch y byddwch chi ddim yn syrthio pan gewch chi’ch profi. Mae’r ysbryd yn frwd, ond y corff yn wan.” Yna aeth Iesu i ffwrdd a gweddïo’r un peth eto.
Marc 14:32-39 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Daethant i le o'r enw Gethsemane, ac meddai ef wrth ei ddisgyblion, “Eisteddwch yma tra byddaf yn gweddïo.” Ac fe gymerodd gydag ef Pedr ac Iago ac Ioan, a dechreuodd deimlo arswyd a thrallod dwys, ac meddai wrthynt, “Y mae f'enaid yn drist iawn hyd at farw. Arhoswch yma a gwyliwch.” Aeth ymlaen ychydig, a syrthiodd ar y ddaear a gweddïo ar i'r awr, petai'n bosibl, fynd heibio iddo. “Abba! Dad!” meddai, “y mae pob peth yn bosibl i ti. Cymer y cwpan hwn oddi wrthyf. Eithr nid yr hyn a fynnaf fi, ond yr hyn a fynni di.” Daeth yn ôl a'u cael hwy'n cysgu, ac meddai wrth Pedr, “Simon, ai cysgu yr wyt ti? Oni ellaist wylio am un awr? Gwyliwch, a gweddïwch na ddewch i gael eich profi. Y mae'r ysbryd yn barod ond y cnawd yn wan.” Aeth ymaith drachefn a gweddïo, gan lefaru'r un geiriau.
Marc 14:32-39 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A hwy a ddaethant i le yr oedd ei enw Gethsemane: ac efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, Eisteddwch yma, tra fyddwyf yn gweddïo. Ac efe a gymerth gydag ef Pedr, ac Iago, ac Ioan, ac a ddechreuodd ymofidio, a thristáu yn ddirfawr. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y mae fy enaid yn athrist hyd angau: arhoswch yma, a gwyliwch. Ac efe a aeth ychydig ymlaen, ac a syrthiodd ar y ddaear, ac a weddïodd, o bai bosibl, ar fyned yr awr honno oddi wrtho. Ac efe a ddywedodd, Abba, Dad, pob peth sydd bosibl i ti: tro heibio y cwpan hwn oddi wrthyf: eithr nid y peth yr ydwyf fi yn ei ewyllysio, ond y peth yr ydwyt ti. Ac efe a ddaeth, ac a’u cafodd hwy yn cysgu; ac a ddywedodd wrth Pedr, Simon, ai cysgu yr wyt ti? oni allit wylio un awr? Gwyliwch a gweddïwch, rhag eich myned mewn temtasiwn. Yr ysbryd yn ddiau sydd barod, ond y cnawd sydd wan. Ac wedi iddo fyned ymaith drachefn, efe a weddïodd, gan ddywedyd yr un ymadrodd.