Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Marc 2:1-12

Marc 2:1-12 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Ychydig ddyddiau wedyn, aeth Iesu yn ôl i Capernaum. Aeth y si o gwmpas ei fod wedi dod adre, a daeth tyrfa mor fawr i’w weld nes bod dim lle hyd yn oed i sefyll y tu allan i’r drws. Dyma Iesu’n cyhoeddi neges Duw iddyn nhw. Yna daeth rhyw bobl â dyn oedd wedi’i barlysu ato. Roedd pedwar yn ei gario, ond yn methu mynd yn agos at Iesu am fod yno gymaint o dyrfa. Felly dyma nhw’n torri twll yn y to uwch ei ben, a gollwng y dyn i lawr ar y fatras oedd yn gorwedd arni. Pan welodd Iesu’r ffydd oedd ganddyn nhw, dwedodd wrth y dyn oedd wedi’i barlysu, “Ffrind, mae dy bechodau wedi’u maddau.” Roedd rhai o’r arbenigwyr yn y Gyfraith yno. Yr hyn oedd yn mynd drwy’u meddyliau nhw oedd, “Sut mae’n gallu dweud y fath beth? Cabledd ydy dweud peth felly! Duw ydy’r unig un sy’n gallu maddau pechodau!” Roedd Iesu’n gwybod yn iawn mai dyna oedden nhw’n ei feddwl, ac meddai wrthyn nhw, “Pam dych chi’n meddwl mod i’n cablu? Ydy’n haws dweud wrth y dyn ‘Mae dy bechodau wedi’u maddau,’ neu ‘Cod ar dy draed, cymer dy fatras a cherdda’? Cewch weld fod gen i, Fab y Dyn, hawl i faddau pechodau ar y ddaear!” A dyma Iesu’n troi at y dyn oedd wedi’i barlysu, a dweud wrtho, “Cod ar dy draed, cymer dy fatras, a dos adre.” A dyna’n union wnaeth y dyn! Cododd ar ei draed yn y fan a’r lle, cymryd ei fatras, a cherdded allan o flaen pawb. Roedd pawb wedi’u syfrdanu’n llwyr, ac yn moli Duw. “Dŷn ni erioed wedi gweld dim byd tebyg i hyn!” medden nhw.

Marc 2:1-12 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Ac efe a aeth drachefn i Gapernaum, wedi rhai dyddiau; a chlybuwyd ei fod ef yn tŷ. Ac yn y man llawer a ymgasglasant ynghyd, hyd na annent hyd yn oed yn y lleoedd ynghylch y drws: ac efe a bregethodd y gair iddynt hwy. A daethant ato, gan ddwyn un claf o’r parlys, yr hwn a ddygid gan bedwar. A chan na allent nesáu ato gan y dyrfa, didoi’r to a wnaethant lle yr oedd efe: ac wedi iddynt dorri trwodd, hwy a ollyngasant i waered y gwely yn yr hwn y gorweddai’r claf o’r parlys. A phan welodd yr Iesu eu ffydd hwynt, efe a ddywedodd wrth y claf o’r parlys, Ha fab, maddeuwyd i ti dy bechodau. Ac yr oedd rhai o’r ysgrifenyddion yn eistedd yno, ac yn ymresymu yn eu calonnau, Beth a wna hwn fel hyn yn dywedyd cabledd? pwy a all faddau pechodau, ond Duw yn unig? Ac yn ebrwydd, pan wybu’r Iesu yn ei ysbryd eu bod hwy yn ymresymu felly ynddynt eu hunain, efe a ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych yn ymresymu am y pethau hyn yn eich calonnau? Pa un sydd hawsaf, ai dywedyd wrth y claf o’r parlys, Maddeuwyd i ti dy bechodau; ai dywedyd, Cyfod, a chymer i fyny dy wely, a rhodia? Eithr fel y gwypoch fod gan Fab y dyn awdurdod i faddau pechodau ar y ddaear, (eb efe wrth y claf o’r parlys,) Wrthyt ti yr wyf yn dywedyd, Cyfod, a chymer i fyny dy wely, a dos i’th dŷ. Ac yn y man y cyfododd efe, ac y cymerth i fyny ei wely, ac a aeth allan yn eu gŵydd hwynt oll; hyd oni synnodd pawb, a gogoneddu Duw, gan ddywedyd, Ni welsom ni erioed fel hyn.