Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Marc 2:19 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Marc 2:19 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Atebodd Iesu nhw, “Dydy pobl ddim yn mynd i wledd briodas i ymprydio! Maen nhw yno i ddathlu gyda’r priodfab. Maen nhw yno i fwynhau eu hunain!

Marc 2:19 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Dywedodd Iesu wrthynt, “A all gwesteion priodas ymprydio tra bydd y priodfab gyda hwy? Cyhyd ag y mae ganddynt y priodfab gyda hwy, ni allant ymprydio.

Marc 2:19 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

A dywedodd yr Iesu wrthynt, A all plant yr ystafell briodas ymprydio, tra fyddo’r priodasfab gyda hwynt? tra fyddo ganddynt y priodasfab gyda hwynt, ni allant ymprydio.