Marc 5:21-43
Marc 5:21-43 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ar ôl i Iesu groesi mewn cwch yn ôl i ochr arall Llyn Galilea, dyma dyrfa fawr yn casglu o’i gwmpas ar lan y dŵr. Daeth un o arweinwyr y synagog ato, dyn o’r enw Jairus. Aeth ar ei liniau o flaen Iesu a phledio’n daer, “Mae fy merch fach i’n marw. Plîs tyrd i’w hiacháu drwy roi dy ddwylo arni, iddi gael byw.” Felly aeth Iesu gyda’r dyn. Roedd tyrfa fawr o bobl o’i gwmpas yn gwthio o bob cyfeiriad. Yn eu canol roedd gwraig oedd wedi bod â gwaedlif arni ers deuddeng mlynedd. Roedd hi wedi dioddef yn ofnadwy dan ofal llawer o feddygon, ac wedi gwario ei harian i gyd ar gael ei thrin, ond yn lle gwella roedd hi wedi mynd o ddrwg i waeth. Roedd wedi clywed am Iesu, a sleifiodd y tu ôl iddo yng nghanol y dyrfa, gan feddwl, “Dim ond i mi lwyddo i gyffwrdd ei ddillad, ca i fy iacháu.” Pan lwyddodd i gyffwrdd ymyl ei glogyn dyma’r gwaedu yn stopio’n syth. Roedd hi’n gallu teimlo ei bod wedi’i hiacháu. Sylweddolodd Iesu fod nerth wedi llifo allan ohono, a throdd yng nghanol y dyrfa a gofyn, “Pwy gyffyrddodd fy nillad i?” Atebodd ei ddisgyblion, “Sut alli di ofyn y fath gwestiwn a’r dyrfa yma’n gwthio o dy gwmpas di?” Ond roedd Iesu’n dal i edrych o gwmpas i weld pwy oedd wedi’i gyffwrdd. Roedd y wraig yn gwybod yn iawn beth oedd wedi digwydd iddi, ac felly dyma hi’n dod ac yn syrthio o’i flaen yn dal i grynu. Dwedodd yr hanes i gyd wrtho. Yna meddai e wrthi, “Ferch annwyl, am i ti gredu rwyt wedi dy iacháu. Dos adre! Bendith Duw arnat ti! Mae’r dioddef ar ben.” Tra oedd Iesu’n siarad, roedd rhyw bobl o dŷ Jairus wedi cyrraedd, a dweud wrtho, “Mae dy ferch wedi marw, felly does dim pwynt poeni’r athro ddim mwy.” Ond chymerodd Iesu ddim sylw o beth gafodd ei ddweud, dim ond dweud wrth Jairus, “Paid bod ofn; dalia i gredu.” Dim ond Pedr, Iago a’i frawd Ioan gafodd fynd yn eu blaenau gyda Iesu. Dyma nhw’n cyrraedd cartref Jairus, ac roedd y lle mewn cynnwrf, a phobl yn crio ac yn udo mewn galar. Pan aeth Iesu i mewn dwedodd wrthyn nhw, “Beth ydy’r holl sŵn yma? Pam dych chi’n crio? Dydy’r ferch fach ddim wedi marw – cysgu mae hi!” Dechreuodd pobl chwerthin am ei ben, ond dyma Iesu’n eu hanfon nhw i gyd allan o’r tŷ. Yna aeth a’r tad a’r fam a’r tri disgybl i mewn i’r ystafell lle roedd y ferch fach. Gafaelodd yn ei llaw, a dweud wrthi, “Talitha cŵm” (sef “Cod ar dy draed, ferch fach!”) A dyma’r ferch, oedd yn ddeuddeg oed, yn codi ar ei thraed a dechrau cerdded o gwmpas. Roedd y rhieni a’r disgyblion wedi’u syfrdanu’n llwyr. Rhybuddiodd nhw i beidio dweud wrth neb beth oedd wedi digwydd; yna dwedodd, “Rhowch rywbeth i’w fwyta iddi.”
Marc 5:21-43 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Wedi i Iesu groesi'n ôl yn y cwch i'r ochr arall, daeth tyrfa fawr ynghyd ato, ac yr oedd ar lan y môr. Daeth un o arweinwyr y synagog, o'r enw Jairus, a phan welodd ef syrthiodd wrth ei draed ac ymbil yn daer arno: “Y mae fy merch fach,” meddai, “ar fin marw. Tyrd a rho dy ddwylo arni, iddi gael ei gwella a byw.” Ac aeth Iesu ymaith gydag ef. Yr oedd tyrfa fawr yn ei ganlyn ac yn gwasgu arno. Ac yr oedd yno wraig ac arni waedlif ers deuddeng mlynedd. Yr oedd wedi dioddef yn enbyd dan driniaeth llawer o feddygon, ac wedi gwario'r cwbl oedd ganddi, a heb gael dim lles ond yn hytrach mynd yn waeth. Yr oedd hon wedi clywed am Iesu, a daeth o'r tu ôl iddo yn y dyrfa a chyffwrdd â'i fantell, oherwydd yr oedd hi wedi dweud, “Os cyffyrddaf hyd yn oed â'i ddillad ef, fe gaf fy iacháu.” A sychodd llif ei gwaed hi yn y fan, a daeth hithau i wybod yn ei chorff ei bod wedi ei hiacháu o'i chlwyf. Ac ar unwaith deallodd Iesu ynddo'i hun fod y nerth oedd yn tarddu ynddo wedi mynd allan, a throes yng nghanol y dyrfa, a gofyn, “Pwy gyffyrddodd â'm dillad?” Meddai ei ddisgyblion wrtho, “Yr wyt yn gweld y dyrfa'n gwasgu arnat ac eto'n gofyn, ‘Pwy gyffyrddodd â mi?’ ” Ond daliodd ef i edrych o'i gwmpas i weld yr un oedd wedi gwneud hyn. Daeth y wraig, dan grynu yn ei braw, yn gwybod beth oedd wedi digwydd iddi, a syrthiodd o'i flaen ef a dweud wrtho'r holl wir. Dywedodd yntau wrthi hi, “Ferch, y mae dy ffydd wedi dy iacháu di. Dos mewn tangnefedd, a bydd iach o'th glwyf.” Tra oedd ef yn llefaru, daeth rhywrai o dŷ arweinydd y synagog a dweud, “Y mae dy ferch wedi marw; pam yr wyt yn poeni'r Athro bellach?” Ond anwybyddodd Iesu y neges, a dywedodd wrth arweinydd y synagog, “Paid ag ofni, dim ond credu.” Ac ni adawodd i neb ganlyn gydag ef ond Pedr ac Iago ac Ioan, brawd Iago. Daethant i dŷ arweinydd y synagog, a gwelodd gynnwrf, a phobl yn wylo ac yn dolefain yn uchel. Ac wedi mynd i mewn dywedodd wrthynt, “Pam yr ydych yn llawn cynnwrf ac yn wylo? Nid yw'r plentyn wedi marw, cysgu y mae.” Dechreusant chwerthin am ei ben. Gyrrodd yntau bawb allan, a chymryd tad y plentyn a'i mam a'r rhai oedd gydag ef, a mynd i mewn lle'r oedd y plentyn. Ac wedi gafael yn llaw'r plentyn dyma fe'n dweud wrthi, “Talitha cŵm,” sy'n golygu, “Fy ngeneth, rwy'n dweud wrthyt, cod.” Cododd yr eneth ar unwaith a dechrau cerdded, oherwydd yr oedd yn ddeuddeng mlwydd oed. A thrawyd hwy yn y fan â syndod mawr. A rhoddodd ef orchymyn pendant iddynt nad oedd neb i gael gwybod hyn, a dywedodd am roi iddi rywbeth i'w fwyta.
Marc 5:21-43 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac wedi i’r Iesu drachefn fyned mewn llong i’r lan arall, ymgasglodd tyrfa fawr ato: ac yr oedd efe wrth y môr. Ac wele, un o benaethiaid y synagog a ddaeth, a’i enw Jairus: a phan ei gwelodd, efe a syrthiodd wrth ei draed ef; Ac efe a fawr ymbiliodd ag ef, gan ddywedyd, Y mae fy merch fechan ar dranc: atolwg i ti ddyfod, a dodi dy ddwylo arni, fel yr iachaer hi; a byw fydd. A’r Iesu a aeth gydag ef: a thyrfa fawr a’i canlynodd ef, ac a’i gwasgasant ef. A rhyw wraig, yr hon a fuasai mewn diferlif gwaed ddeuddeng mlynedd, Ac a oddefasai lawer gan laweroedd o feddygon, ac a dreuliasai gymaint ag oedd ar ei helw, ac ni chawsai ddim llesâd, eithr yn hytrach myned waethwaeth, Pan glybu hi am yr Iesu, hi a ddaeth yn y dyrfa o’r tu ôl, ac a gyffyrddodd â’i wisg ef; Canys hi a ddywedasai, Os cyffyrddaf â’i ddillad ef, iach fyddaf. Ac yn ebrwydd y sychodd ffynhonnell ei gwaed hi: a hi a wybu yn ei chorff ddarfod ei hiacháu o’r pla. Ac yn y fan yr Iesu, gan wybod ynddo’i hun fyned rhinwedd allan ohono, a drodd yn y dyrfa, ac a ddywedodd, Pwy a gyffyrddodd â’m dillad? A’i ddisgyblion a ddywedasant wrtho, Ti a weli’r dyrfa yn dy wasgu, ac a ddywedi di, Pwy a’m cyffyrddodd? Ac yntau a edrychodd o amgylch, i weled yr hon a wnaethai hyn. Ond y wraig, gan ofni a chrynu, yn gwybod beth a wnaethid ynddi, a ddaeth ac a syrthiodd ger ei fron ef, ac a ddywedodd iddo yr holl wirionedd. Ac efe a ddywedodd wrthi, Ha ferch, dy ffydd a’th iachaodd: dos mewn heddwch, a bydd iach o’th bla. Ac efe eto yn llefaru, daeth rhai o dŷ pennaeth y synagog, gan ddywedyd, Bu farw dy ferch: i ba beth eto yr aflonyddi’r Athro? A’r Iesu, yn ebrwydd wedi clywed y gair a ddywedasid, a ddywedodd wrth bennaeth y synagog, Nac ofna; cred yn unig. Ac ni adawodd efe neb i’w ddilyn, ond Pedr, ac Iago, ac Ioan brawd Iago. Ac efe a ddaeth i dŷ pennaeth y synagog, ac a ganfu’r cynnwrf, a’r rhai oedd yn wylo ac yn ochain llawer. Ac wedi iddo fyned i mewn, efe a ddywedodd wrthynt, Paham y gwnewch gynnwrf, ac yr wylwch? ni bu farw’r eneth, eithr cysgu y mae. A hwy a’i gwatwarasant ef. Ond efe, gwedi bwrw pawb allan, a gymerth dad yr eneth a’i mam, a’r rhai oedd gydag ef, ac a aeth i mewn lle yr oedd yr eneth yn gorwedd. Ac wedi ymaflyd yn llaw’r eneth, efe a ddywedodd wrthi, Talitha, cwmi; yr hyn o’i gyfieithu yw, Yr eneth, yr wyf yn dywedyd wrthyt, cyfod. Ac yn y fan y cyfododd yr eneth, ac a rodiodd: canys deuddeng mlwydd oed ydoedd hi. A synnu a wnaeth arnynt â syndod mawr. Ac efe a orchmynnodd iddynt yn gaeth, na châi neb wybod hyn; ac a ddywedodd am roddi peth iddi i’w fwyta.