Marc 5:35-36
Marc 5:35-36 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Tra oedd Iesu’n siarad, roedd rhyw bobl o dŷ Jairus wedi cyrraedd, a dweud wrtho, “Mae dy ferch wedi marw, felly does dim pwynt poeni’r athro ddim mwy.” Ond chymerodd Iesu ddim sylw o beth gafodd ei ddweud, dim ond dweud wrth Jairus, “Paid bod ofn; dalia i gredu.”
Rhanna
Darllen Marc 5Marc 5:35-36 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Tra oedd ef yn llefaru, daeth rhywrai o dŷ arweinydd y synagog a dweud, “Y mae dy ferch wedi marw; pam yr wyt yn poeni'r Athro bellach?” Ond anwybyddodd Iesu y neges, a dywedodd wrth arweinydd y synagog, “Paid ag ofni, dim ond credu.”
Rhanna
Darllen Marc 5Marc 5:35-36 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac efe eto yn llefaru, daeth rhai o dŷ pennaeth y synagog, gan ddywedyd, Bu farw dy ferch: i ba beth eto yr aflonyddi’r Athro? A’r Iesu, yn ebrwydd wedi clywed y gair a ddywedasid, a ddywedodd wrth bennaeth y synagog, Nac ofna; cred yn unig.
Rhanna
Darllen Marc 5