Nehemeia 1:6
Nehemeia 1:6 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Bydded, atolwg, dy glust yn clywed, a’th lygaid yn agored, i wrando ar weddi dy was, yr hon yr ydwyf fi yn ei gweddïo ger dy fron di yr awr hon ddydd a nos, dros feibion Israel dy weision, ac yn cyffesu pechodau meibion Israel, y rhai a bechasom i’th erbyn: myfi hefyd a thŷ fy nhad a bechasom.
Nehemeia 1:6 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
O, plîs edrych a gwrando ar weddi dy was. Gwranda ar beth dw i’n ei weddïo ddydd a nos ar ran dy weision, pobl Israel. Dw i’n cyffesu ein bod ni wedi pechu yn dy erbyn di – fi a’m teulu, a phobl Israel i gyd.
Nehemeia 1:6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
yn awr bydded dy glust yn gwrando a'th lygaid yn agored i dderbyn y weddi yr wyf fi, dy was, yn ei gweddïo o'th flaen ddydd a nos, dros blant Israel, dy weision. Yr wyf yn cyffesu'r pechodau a wnaethom ni, bobl Israel, yn dy erbyn; yr wyf fi a thŷ fy nhad wedi pechu yn dy erbyn