Nehemeia 1:7-9
Nehemeia 1:7-9 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Gwnaethom yn llygredig iawn i’th erbyn, ac ni chadwasom y gorchmynion, na’r deddfau, na’r barnedigaethau, a orchmynnaist i Moses dy was. Cofia, atolwg, y gair a orchmynnaist wrth Moses dy was, gan ddywedyd, Os chwi a droseddwch, myfi a’ch gwasgaraf chwi ymysg y bobloedd: Ond os dychwelwch ataf fi, a chadw fy ngorchmynion, a’u gwneuthur hwynt; pe gyrrid rhai ohonoch chwi hyd eithaf y nefoedd, eto mi a’u casglaf hwynt oddi yno, ac a’u dygaf i’r lle a etholais i drigo o’m henw ynddo.
Nehemeia 1:7-9 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dŷn ni wedi ymddwyn yn ofnadwy, a heb gadw’r gorchmynion, y rheolau a’r canllawiau wnest ti eu rhoi i dy was Moses. Plîs cofia beth ddwedaist ti wrth Moses: ‘Os byddwch chi’n anffyddlon, bydda i’n eich gyrru chi ar chwâl drwy’r gwledydd. Ond os byddwch chi’n troi a gwneud beth dw i’n ddweud, hyd yn oed os ydy’r bobl wedi’u chwalu i ben draw’r byd, bydda i’n eu casglu nhw yn ôl i’r lle dw i wedi dewis byw ynddo.’
Nehemeia 1:7-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
ac ymddwyn yn llygredig iawn tuag atat trwy beidio â chadw'r gorchmynion a'r deddfau a'r cyfreithiau a orchmynnaist i'th was Moses. Cofia'r rhybudd a roddaist i'th was Moses pan ddywedaist, ‘Os byddwch yn anffyddlon, byddaf fi'n eich gwasgaru ymysg y bobloedd; ond os dychwelwch ataf a chadw fy ngorchmynion a'u gwneud, byddaf yn casglu'r rhai a wasgarwyd hyd gyrion byd, ac yn eu cyrchu i'r lle a ddewisais i roi fy enw yno.’