Nehemeia 10:39
Nehemeia 10:39 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Canys meibion Israel a meibion Lefi a ddygant offrwm yr ŷd, y gwin, a’r olew, i’r ystafelloedd, lle y mae llestri’r cysegr, a’r offeiriaid sydd yn gweini, a’r porthorion, a’r cantorion; ac nac ymwrthodwn â thŷ ein DUW.
Rhanna
Darllen Nehemeia 10Nehemeia 10:39 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Bydd pobl Israel a’r Lefiaid yn mynd â’r cyfraniadau yma (o rawn, sudd grawnwin, ac olew olewydd) i’r stordai lle mae holl offer y deml yn cael ei gadw. Dyna hefyd lle mae’r offeiriaid, gofalwyr y giatiau a’r cantorion yn aros. Dŷn ni’n addo na fyddwn ni’n esgeuluso teml ein Duw.”
Rhanna
Darllen Nehemeia 10Nehemeia 10:39 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Oherwydd fe ddaw'r Israeliaid a'r Lefiaid â'r offrwm o ŷd a gwin ac olew newydd i'r ystordai, lle mae llestri'r cysegr ac offer yr offeiriaid sy'n gweini, a'r porthorion a'r cantorion. Ni fyddwn yn esgeuluso tŷ ein Duw.”
Rhanna
Darllen Nehemeia 10