Nehemeia 2:17-18
Nehemeia 2:17-18 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yna dyma fi’n dweud wrthyn nhw, “Dych chi’n gwybod mor anodd ydy pethau yma: mae Jerwsalem yn adfeilion a’i giatiau wedi’u llosgi. Dewch! Gadewch i ni ailadeiladu wal Jerwsalem, a dod â’r sefyllfa warthus yma i ben.” Dwedais yr hanes wrthyn nhw, fel roedd Duw wedi bod gyda mi, a beth roedd y brenin wedi’i ddweud wrtho i. A dyma nhw’n ymateb, “Gadewch i ni ddechrau adeiladu ar unwaith!” A dyma nhw’n annog ei gilydd i fynd ati i wneud y gwaith pwysig yma.
Nehemeia 2:17-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yna dywedais wrthynt, “Yr ydych yn gweld y trybini yr ydym ynddo; y mae Jerwsalem yn adfeilion a'i phyrth wedi eu llosgi â thân; dewch, adeiladwn fur Jerwsalem rhag inni fod yn waradwydd mwyach.” Dywedais wrthynt fel yr oedd fy Nuw wedi fy helpu, a hefyd yr hyn a ddywedodd y brenin wrthyf. Yna dywedasant, “Awn ati i adeiladu.” A bu iddynt ymroi i'r gwaith yn ewyllysgar.
Nehemeia 2:17-18 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yna y dywedais wrthynt, Yr ydych yn gweled yr adfyd yr ydym ynddo, fod Jerwsalem wedi ei dinistrio, a’i phyrth wedi eu llosgi â thân: deuwch, ac adeiladwn fur Jerwsalem, fel na byddom mwyach yn waradwydd. Yna y mynegais iddynt fod llaw fy NUW yn ddaionus tuag ataf; a geiriau y brenin hefyd y rhai a ddywedasai efe wrthyf. A hwy a ddywedasant, Cyfodwn, ac adeiladwn. Felly y cryfhasant eu dwylo i ddaioni.