Nehemeia 4:14
Nehemeia 4:14 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yna ar ôl edrych dros y cwbl, dyma fi’n codi i annerch yr arweinwyr, y swyddogion, a gweddill y bobl, a dweud, “Peidiwch bod â’u hofn nhw. Cofiwch mor fawr a rhyfeddol ydy’r Meistr! Byddwch barod i ymladd dros eich pobl, eich meibion, eich merched, eich gwragedd a’ch cartrefi!”
Nehemeia 4:14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Wedi imi weld ynglŷn â hyn, euthum i ddweud wrth y pendefigion a'r swyddogion a gweddill y bobl, “Peidiwch â'u hofni; cadwch eich meddwl ar yr ARGLWYDD sy'n fawr ac ofnadwy, ac ymladdwch dros eich pobl, eich meibion a'ch merched, eich gwragedd a'ch cartrefi.”
Nehemeia 4:14 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A mi a edrychais, ac a gyfodais, ac a ddywedais wrth y pendefigion, a’r swyddogion, ac wrth y rhan arall o’r bobl, Nac ofnwch rhagddynt: cofiwch yr ARGLWYDD mawr ac ofnadwy, ac ymleddwch dros eich brodyr, eich meibion a’ch merched, eich gwragedd a’ch tai.