Nehemeia 6:15-16
Nehemeia 6:15-16 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A’r mur a orffennwyd ar y pumed dydd ar hugain o Elul, mewn deuddeng niwrnod a deugain. A phan glybu ein holl elynion ni hynny, a gweled o’r holl genhedloedd y rhai oedd o’n hamgylch, hwy a ofnasant, ac a lwfrhasant yn ddirfawr ynddynt eu hun: canys gwybuant mai trwy ein DUW ni y gwnaethid y gwaith hwn.
Nehemeia 6:15-16 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Cafodd y wal ei gorffen ar y pumed ar hugain o fis Elwl – dim ond pum deg dau diwrnod gymrodd y gwaith! Roedd ein gelynion, a’r gwledydd o’n cwmpas, wedi dychryn a digalonni pan glywon nhw fod y gwaith wedi’i orffen. Allen nhw ddim gwadu fod Duw wedi’n helpu ni i wneud hyn.
Nehemeia 6:15-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Gorffennwyd y mur mewn deuddeg diwrnod a deugain, ar y pumed ar hugain o Elul. Pan glywodd ein holl elynion, a phan welodd yr holl genhedloedd o'n hamgylch, yr oedd y peth yn rhyfeddol yn eu golwg, a daethant i ddeall mai trwy gymorth ein Duw y cafodd y gwaith hwn ei wneud.