Nehemeia 7:1-2
Nehemeia 7:1-2 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac wedi adeiladu y mur, a chyfodi ohonof y dorau, a gosod y porthorion, a’r cantorion, a’r Lefiaid; Yna mi a orchmynnais i Hanani fy mrawd, ac i Hananeia tywysog y palas yn Jerwsalem, canys efe oedd ŵr ffyddlon, ac yn ofni DUW yn fwy na llawer
Nehemeia 7:1-2 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Roedd y wal wedi’i gorffen, drysau’r giatiau wedi’u gosod yn eu lle, a gofalwyr y giatiau, cantorion a Lefiaid wedi’u penodi. A dyma fi’n apwyntio Chanani (perthynas i mi), a Chananeia, pennaeth y gaer, i fod yn gyfrifol am Jerwsalem. Roedd Chananeia’n ddyn y gallwn ei drystio, ac yn fwy duwiol na’r rhan fwya o bobl.
Nehemeia 7:1-2 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yna, wedi i'r mur gael ei ailgodi, ac imi osod y dorau, ac i'r porthorion a'r cantorion a'r Lefiaid gael eu penodi, rhoddais Jerwsalem yng ngofal Hanani fy mrawd a Hananeia arolygwr y palas, oherwydd yr oedd ef yn ddyn gonest ac yn parchu Duw'n fwy na'r mwyafrif.