Nehemeia 7:3
Nehemeia 7:3 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A mi a ddywedais wrthynt, Nac agorer pyrth Jerwsalem nes gwresogi yr haul; a thra fyddont hwy yn sefyll yno, caeant y drysau, a phreniant: a mi a osodais wylwyr o drigolion Jerwsalem, pob un yn ei wyliadwriaeth, a phob un ar gyfer ei dŷ.
Rhanna
Darllen Nehemeia 7Nehemeia 7:3 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dwedais wrthyn nhw, “Ddylai giatiau’r ddinas ddim bod ar agor pan mae’r haul yn boeth ganol dydd. Dylen nhw aros dan glo nes bod y gofalwyr yn ôl ar ddyletswydd. A rhaid i chi osod rhai o bobl Jerwsalem yn wylwyr ar y waliau, ac eraill wrth eu tai.”
Rhanna
Darllen Nehemeia 7Nehemeia 7:3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
A dywedais wrthynt, “Nid yw pyrth Jerwsalem i fod ar agor nes bod yr haul wedi codi; a chyn iddo fachlud rhaid cau'r dorau a'u cloi. Trefnwch drigolion Jerwsalem yn wylwyr, pob un i wylio yn ei dro, a phob un yn ymyl ei dŷ ei hun.”
Rhanna
Darllen Nehemeia 7