Nehemeia 8:10
Nehemeia 8:10 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ewch, bwytewch y breision, ac yfwch y melysion, ac anfonwch rannau i’r hwn nid oes ganddo ddim yn barod; canys y mae heddiw yn sanctaidd i’n Harglwydd: am hynny na thristewch; canys llawenydd yr ARGLWYDD yw eich nerth chwi.
Rhanna
Darllen Nehemeia 8Nehemeia 8:10 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ewch i ddathlu a mwynhau pryd o fwyd a diod felys, a chofiwch rannu gyda’r rhai sydd heb ddim. Mae heddiw’n ddiwrnod wedi’i gysegru i’r Meistr. Peidiwch bod yn drist – bod yn llawen yn yr ARGLWYDD sy’n rhoi nerth i chi!”
Rhanna
Darllen Nehemeia 8Nehemeia 8:10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yna fe ddywedodd wrthynt, “Ewch, bwytewch ddanteithion ac yfwch win melys a rhannwch â'r sawl sydd heb ddim, oherwydd mae heddiw yn ddydd sanctaidd i'n Harglwydd; felly, peidiwch â galaru, oherwydd llawenhau yn yr ARGLWYDD yw eich nerth.”
Rhanna
Darllen Nehemeia 8