Nehemeia 8:9
Nehemeia 8:9 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Roedd y bobl wedi dechrau crio wrth wrando ar y Gyfraith yn cael ei darllen iddyn nhw. A dyma Nehemeia y llywodraethwr, Esra yr offeiriad a’r ysgrifennydd, a’r Lefiaid oedd yn rhoi’r esboniad, yn dweud, “Mae heddiw’n ddiwrnod wedi’i gysegru i’r ARGLWYDD eich Duw. Peidiwch galaru a chrio.
Nehemeia 8:9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yna dywedodd Nehemeia y llywodraethwr ac Esra yr offeiriad a'r ysgrifennydd, a'r Lefiaid oedd yn hyfforddi'r bobl, wrth yr holl bobl, “Y mae heddiw yn ddydd sanctaidd i'r ARGLWYDD eich Duw; peidiwch â galaru nac wylo.” Oherwydd yr oedd pawb yn wylo wrth wrando ar eiriau'r gyfraith.
Nehemeia 8:9 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A Nehemeia, efe yw y Tirsatha, ac Esra yr offeiriad a’r ysgrifennydd, a’r Lefiaid y rhai oedd yn dysgu y bobl, a ddywedasant wrth yr holl bobl, Y mae heddiw yn sanctaidd i’r ARGLWYDD eich DUW; na alerwch, ac nac wylwch: canys yr holl bobl oedd yn wylo pan glywsant eiriau y gyfraith.