Nehemeia 9:16-17
Nehemeia 9:16-17 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ond roedd ein hynafiaid yn falch ac ystyfnig, a wnaethon nhw ddim gwrando ar dy orchmynion di. Gwrthodon nhw wrando, ac anghofio’r gwyrthiau roeddet ti wedi’u gwneud yn eu plith nhw. Dyma nhw’n gwrthryfela, a dewis arweinydd i’w harwain nhw yn ôl i’r Aifft. Ond rwyt ti’n Dduw sydd yn maddau, rwyt ti mor garedig a thrugarog, mor amyneddgar ac mor anhygoel o hael! Wnest ti ddim hyd yn oed troi cefn arnyn nhw
Nehemeia 9:16-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Ond aethant hwy, ein hynafiaid, yn falch ac yn ystyfnig, a gwrthod gwrando ar dy orchmynion. Gwrthodasant wrando, ac nid oeddent yn cofio dy ryfeddodau a wnaethost iddynt. Aethant yn ystyfnig a dewis arweinydd er mwyn dychwelyd i'w caethiwed yn yr Aifft. Ond yr wyt ti'n Dduw sy'n maddau, yn raslon a thrugarog, araf i ddigio a llawn ffyddlondeb, ac ni wrthodaist hwy.
Nehemeia 9:16-17 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ond hwynt-hwy a’n tadau ni a falchiasant, ac a galedasant eu gwarrau, ac ni wrandawsant ar dy orchmynion di; Ac a wrthodasant wrando, ac ni chofiasant dy ryfeddodau, y rhai a wnaethit ti erddynt; caledasant hefyd eu gwarrau, a gosodasant ben arnynt i ddychwelyd i’w caethiwed yn eu cyndynrwydd: eto ti ydwyt DDUW parod i faddau, graslon, a thrugarog, hwyrfrydig i ddicter, ac aml o drugaredd, ac ni wrthodaist hwynt.