Nehemeia 9:19-21
Nehemeia 9:19-21 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Am dy fod ti mor drugarog, wnest ti ddim troi cefn arnyn nhw yn yr anialwch. Roedd y golofn o niwl yn dal i’w harwain yn y dydd, a’r golofn dân yn dal i oleuo’r ffordd iddyn nhw yn y nos. Dyma ti’n rhoi dy ysbryd da i’w dysgu nhw. Wnest ti ddim stopio rhoi manna iddyn nhw i’w fwyta, a dal i roi dŵr i dorri eu syched. Dyma ti’n eu cynnal nhw am bedwar deg mlynedd. Er eu bod yn yr anialwch, doedden nhw’n brin o ddim; wnaeth eu dillad ddim treulio, a’u traed ddim chwyddo.
Nehemeia 9:19-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
yn dy drugaredd fawr ni chefnaist arnynt yn yr anialwch. Ni chiliodd oddi wrthynt y golofn gwmwl a'u tywysai ar hyd y ffordd liw dydd, na'r golofn dân liw nos, a oleuai'r ffordd a dramwyent. Rhoddaist dy ysbryd daionus i'w cyfarwyddo; nid ateliaist dy fanna rhagddynt; rhoddaist iddynt ddŵr i dorri eu syched. Am ddeugain mlynedd buost yn eu cynnal yn yr anialwch heb fod arnynt eisiau dim; nid oedd eu dillad yn treulio na'u traed yn chwyddo.
Nehemeia 9:19-21 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Er hynny, yn dy aml dosturiaethau, ni adewaist ti hwynt yn yr anialwch: y golofn gwmwl ni chiliodd oddi wrthynt trwy y dydd, i’w harwain hwynt ar hyd y ffordd; na’r golofn dân trwy y nos, i oleuo iddynt, ac i ddangos y ffordd y cerddent ynddi. Dy ysbryd daionus hefyd a roddaist i’w dysgu hwynt, ac nid ateliaist dy fanna rhag eu genau; dwfr hefyd a roddaist iddynt yn eu syched. Felly deugain mlynedd y porthaist hwynt yn yr anialwch, heb fod arnynt eisiau dim: eu gwisgoedd ni heneiddiasant, a’u traed ni chwyddasant.