Numeri 16:30-32
Numeri 16:30-32 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ond os gwna'r ARGLWYDD rywbeth newydd, trwy beri i'r ddaear agor ei genau a'u llyncu hwy a phopeth a berthyn iddynt, fel eu bod yn disgyn yn fyw i Sheol, yna byddwch yn gwybod bod y dynion hyn wedi dirmygu'r ARGLWYDD.” Fel yr oedd yn gorffen dweud hyn i gyd, holltodd y tir odanynt, ac agorodd y ddaear ei genau a'u llyncu hwy a'u tylwyth, a holl ddynion Cora a'u heiddo i gyd.
Numeri 16:30-32 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ond os yr ARGLWYDD a wna newyddbeth, fel yr agoro’r ddaear ei safn, a’u llyncu hwynt, a’r hyn oll sydd eiddynt, fel y disgynnont yn fyw i uffern; yna y cewch wybod ddigio o’r gwŷr hyn yr ARGLWYDD. A bu, wrth orffen ohono lefaru yr holl eiriau hyn, hollti o’r ddaear oedd danynt hwy. Agorodd y ddaear hefyd ei safn, a llyncodd hwynt, a’u tai hefyd, a’r holl ddynion oedd gan Cora, a’u holl gyfoeth.
Numeri 16:30-32 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ond os fydd yr ARGLWYDD yn gwneud rhywbeth annisgwyl, a’r ddaear yn eu llyncu nhw a’u heiddo i gyd – os byddan nhw’n syrthio’n fyw i’w bedd – byddwch yn gwybod wedyn fod y dynion yma wedi sarhau’r ARGLWYDD!” Ar ôl i Moses ddweud hyn, dyma’r ddaear yn hollti oddi tanyn nhw. A dyma nhw a’u teuluoedd, a phobl Cora a’u heiddo i gyd, yn cael eu llyncu gan y tir.