Numeri 3:12-13
Numeri 3:12-13 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Dw i wedi cymryd y Lefiaid i mi fy hun, yn lle’r mab cyntaf i ddod allan o groth pob gwraig yn Israel. Fi piau’r Lefiaid, am mai fi piau pob mab cyntaf. Rôn i wedi cysegru pob mab ac anifail cyntaf i gael ei eni i mi fy hun, pan wnes i ladd y rhai cyntaf i gael eu geni yng ngwlad yr Aifft. Felly fi piau pob un cyntaf i gael ei eni. Fi ydy’r ARGLWYDD.”
Numeri 3:12-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Edrych, yr wyf wedi neilltuo'r Lefiaid o blith pobl Israel yn lle pob cyntafanedig a ddaw allan o'r groth; bydd y Lefiaid yn eiddo i mi, oherwydd eiddof fi yw pob cyntafanedig. Ar y dydd y trewais bob cyntafanedig yng ngwlad yr Aifft, cysegrais i mi fy hun bob cyntafanedig yn Israel, yn ddyn ac anifail; eiddof fi ydynt. Myfi yw'r ARGLWYDD.”
Numeri 3:12-13 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac wele, mi a gymerais y Lefiaid o blith meibion Israel, yn lle pob cyntaf-anedig sef pob cyntaf a agoro’r groth o feibion Israel; am hynny y Lefiaid a fyddant eiddof fi: Canys eiddof fi yw pob cyntaf-anedig Ar y dydd y trewais y cyntaf-anedig yn nhir yr Aifft, cysegrais i mi fy hun bob cyntaf-anedig yn Israel o ddyn ac anifail: eiddof fi ydynt: myfi yw yr ARGLWYDD.