Diarhebion 1:10-16
Diarhebion 1:10-16 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Fy mab, os ydy cwmni drwg yn ceisio dy ddenu di, paid mynd gyda nhw. Os dwedan nhw, “Tyrd gyda ni! Gad i ni guddio i ymosod ar rywun; mygio rhywun diniwed am ddim rheswm! Gad i ni eu llyncu nhw’n fyw, fel y bedd; a rhoi crasfa iawn iddyn nhw, nes byddan nhw bron â marw. Cawn ni pob math o bethau gwerthfawr, a llenwi ein tai gyda phethau wedi’u dwyn. Tyrd gyda ni! Bydd yn fentrus – byddwn yn rhannu popeth gawn ni.” Fy mab, paid mynd y ffordd yna; cadw draw oddi wrthyn nhw. Maen nhw’n rhuthro i wneud drwg; maen nhw ar frys i dywallt gwaed.
Diarhebion 1:10-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Fy mab, os hudir di gan bechaduriaid, paid â chytuno â hwy. Fe ddywedant, “Tyrd gyda ni, inni gynllwynio i dywallt gwaed, a llechu'n ddiachos yn erbyn y diniwed; fel Sheol, llyncwn hwy'n fyw ac yn gyfan, fel rhai'n disgyn i'r pwll; fe gymerwn bob math ar gyfoeth, a llenwi ein tai ag ysbail; bwrw dy goelbren gyda ni, a bydd un pwrs rhyngom i gyd.” Fy mab, paid â mynd yr un ffordd â hwy; cadw dy droed oddi ar eu llwybr. Oherwydd y mae eu traed yn rhuthro at ddrwg, ac yn prysuro i dywallt gwaed.
Diarhebion 1:10-16 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Fy mab, os pechaduriaid a’th ddenant, na chytuna. Os dywedant, Tyred gyda ni, cynllwynwn am waed, ymguddiwn yn erbyn y gwirion yn ddiachos: Llyncwn hwy yn fyw, fel y bedd; ac yn gyfan, fel rhai yn disgyn i’r pydew: Nyni a gawn bob cyfoeth gwerthfawr, nyni a lanwn ein tai ag ysbail: Bwrw dy goelbren yn ein mysg; bydded un pwrs i ni i gyd: Fy mab, na rodia yn y ffordd gyda hwynt; atal dy droed rhag eu llwybr hwy. Canys eu traed a redant i ddrygioni, ac a brysurant i dywallt gwaed.