Diarhebion 3:5-8
Diarhebion 3:5-8 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Trystia’r ARGLWYDD yn llwyr; paid dibynnu ar dy syniadau dy hun. Gwrando arno fe bob amser, a bydd e’n dangos y ffordd iawn i ti. Paid meddwl dy fod ti’n glyfar; dangos barch at yr ARGLWYDD a throi dy gefn ar ddrygioni. Bydd byw felly’n cadw dy gorff yn iach, ac yn gwneud byd o les i ti.
Diarhebion 3:5-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ymddiried yn llwyr yn yr ARGLWYDD, a phaid â dibynnu ar dy ddeall dy hun. Cydnabydda ef yn dy holl ffyrdd, bydd ef yn sicr o gadw dy lwybrau'n union. Paid â bod yn ddoeth yn dy olwg dy hun; ofna'r ARGLWYDD, a chilia oddi wrth ddrwg. Bydd hyn yn iechyd i'th gorff, ac yn faeth i'th esgyrn.
Diarhebion 3:5-8 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Gobeithia yn yr ARGLWYDD â’th holl galon; ac nac ymddiried i’th ddeall dy hun. Yn dy holl ffyrdd cydnebydd ef, ac efe a hyfforddia dy lwybrau. Na fydd ddoeth yn dy olwg dy hun: ofna yr ARGLWYDD, a thyn ymaith oddi wrth ddrygioni. Hynny a fydd iechyd i’th fogail, a mêr i’th esgyrn.