Diarhebion 7:1-5
Diarhebion 7:1-5 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Fy mab, gwna beth dw i’n ddweud, a thrysori’r hyn dw i’n ei orchymyn. Gwna beth dw i’n ei orchymyn, i ti gael bywyd da; paid tynnu dy lygad oddi ar y pethau dw i’n eu dysgu. Cadw nhw fel modrwy ar dy fys; ysgrifenna nhw ar lech dy galon. Dwed wrth ddoethineb, “Ti fel chwaer i mi,” a gwna gyngor doeth yn ffrind gorau. Bydd yn dy warchod di rhag y wraig anfoesol; rhag yr un lac ei moesau sy’n fflyrtian drwy’r adeg.
Diarhebion 7:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Fy mab, cadw fy ngeiriau, a thrysora fy ngorchmynion. Cadw fy ngorchmynion, iti gael byw, a boed fy nghyfarwyddyd fel cannwyll dy lygad. Rhwym hwy am dy fysedd, ysgrifenna hwy ar lech dy galon. Dywed wrth ddoethineb, “Fy chwaer wyt ti”, a chyfarch ddeall fel câr, i'th gadw dy hun rhag y wraig ddieithr, a rhag yr estrones a'i geiriau gwenieithus.
Diarhebion 7:1-5 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Fy mab, cadw fy ngeiriau, a chuddia fy ngorchmynion gyda thi. Cadw fy ngorchmynion, a bydd fyw; a’m cyfraith fel cannwyll dy lygad. Rhwym hwynt am dy fysedd, ysgrifenna hwynt ar lech dy galon. Dywed wrth ddoethineb, Fy chwaer wyt ti; galw ddeall yn gares: Fel y’th gadwont oddi wrth y wraig ddieithr, a rhag y fenyw â’r ymadrodd gwenieithus.