Diarhebion 9:1-6
Diarhebion 9:1-6 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae Doethineb wedi adeiladu ei thŷ; ac mae wedi naddu saith colofn iddo. Mae hi wedi paratoi gwledd, cymysgu’r gwin, a gosod y bwrdd. Mae hi wedi anfon ei morynion allan i alw ar bobl drwy’r dre. Mae’n dweud wrth bobl sy’n brin o synnwyr cyffredin, “Dewch yma, chi bobl wirion! Dewch i fwyta gyda mi, ac yfed y gwin dw i wedi’i gymysgu. Stopiwch fod mor ddwl, i chi gael byw; dechreuwch gerdded ffordd gall.”
Diarhebion 9:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Y mae doethineb wedi adeiladu ei thŷ, ac yn naddu ei saith golofn; y mae wedi paratoi ei chig a chymysgu ei gwin a hulio ei bwrdd. Anfonodd allan ei llancesau, ac ar uchelfannau'r ddinas y mae'n galw, “Dewch yma, bob un sy'n wirion.” Y mae'n dweud wrth y rhai disynnwyr, “Dewch, bwytewch gyda mi, ac yfwch y gwin a gymysgais. Gadewch eich gwiriondeb, ichwi gael byw; rhodiwch yn ffordd deall.”
Diarhebion 9:1-6 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Doethineb a adeiladodd ei thŷ, hi a naddodd ei saith golofn. Hi a laddodd ei hanifeiliaid; hi a gymysgodd ei gwin, ac a huliodd ei bwrdd. Hi a yrrodd ei llawforynion: y mae yn llefain oddi ar fannau uchel y ddinas: Pwy bynnag sydd annichellgar, tröed i mewn yma: ac wrth yr annoeth y mae hi yn dywedyd, Deuwch, a bwytewch o’m bara, ac yfwch o’r gwin a gymysgais. Ymadewch â’r rhai ffôl, a byddwch fyw; a cherddwch yn ffordd deall.