Salm 1:1-2
Salm 1:1-2 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Gwyn ei fyd y gŵr ni rodia yng nghyngor yr annuwiolion, ac ni saif yn ffordd pechaduriaid, ac nid eistedd yn eisteddfa gwatwarwyr. Ond sydd â’i ewyllys yng nghyfraith yr ARGLWYDD; ac yn myfyrio yn ei gyfraith ef ddydd a nos.
Rhanna
Darllen Salm 1Salm 1:1-2 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae’r un sy’n gwrthod gwrando ar gyngor pobl ddrwg wedi’i fendithio’n fawr; yr un sydd ddim yn cadw cwmni pechaduriaid, nac yn eistedd gyda’r rhai sy’n gwneud dim byd ond dilorni pobl eraill; yr un sydd wrth ei fodd yn gwneud beth mae’r ARGLWYDD eisiau, ac yn myfyrio ar y pethau mae’n eu dysgu ddydd a nos.
Rhanna
Darllen Salm 1