Salm 107:1-8
Salm 107:1-8 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Diolchwch i’r ARGLWYDD! Mae e mor dda aton ni! Mae ei haelioni yn ddiddiwedd! Gadewch i’r rhai mae’r ARGLWYDD wedi’u gollwng yn rhydd ddweud hyn, ie, y rhai sydd wedi’u rhyddhau o afael y gelyn. Maen nhw’n cael eu casglu o’r gwledydd eraill, o’r dwyrain, gorllewin, gogledd a de. Roedden nhw’n crwydro ar goll yn yr anialwch gwyllt, ac yn methu dod o hyd i dre lle gallen nhw fyw. Roedden nhw eisiau bwyd ac roedd syched arnyn nhw, ac roedden nhw wedi colli pob egni. Dyma nhw’n galw ar yr ARGLWYDD yn eu trybini, a dyma fe’n eu hachub o’u trafferthion, ac yn eu harwain nhw’n syth i le y gallen nhw setlo i lawr ynddo. Gadewch iddyn nhw ddiolch i’r ARGLWYDD am ei gariad ffyddlon, a’r pethau rhyfeddol mae wedi’u gwneud ar ran pobl!
Salm 107:1-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Diolchwch i'r ARGLWYDD, oherwydd da yw, ac y mae ei gariad hyd byth. Fel yna dyweded y rhai a waredwyd gan yr ARGLWYDD, y rhai a waredodd ef o law'r gelyn, a'u cynnull ynghyd o'r gwledydd, o'r dwyrain a'r gorllewin, o'r gogledd a'r de. Aeth rhai ar goll mewn anialdir a diffeithwch, heb gael ffordd at ddinas i fyw ynddi; yr oeddent yn newynog ac yn sychedig, ac yr oedd eu nerth yn pallu. Yna gwaeddasant ar yr ARGLWYDD yn eu cyfyngder, a gwaredodd hwy o'u hadfyd; arweiniodd hwy ar hyd ffordd union i fynd i ddinas i fyw ynddi. Bydded iddynt ddiolch i'r ARGLWYDD am ei gariad, ac am ei ryfeddodau i ddynolryw.
Salm 107:1-8 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Clodforwch yr ARGLWYDD; canys da yw: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd. Felly dyweded gwaredigion yr ARGLWYDD, y rhai a waredodd efe o law y gelyn; Ac a gasglodd efe o’r tiroedd, o’r dwyrain, ac o’r gorllewin, o’r gogledd, ac o’r deau. Crwydrasant yn yr anialwch mewn ffordd ddisathr, heb gael dinas i aros ynddi: Yn newynog ac yn sychedig, eu henaid a lewygodd ynddynt. Yna y llefasant ar yr ARGLWYDD yn eu cyfyngder; ac efe a’u gwaredodd o’u gorthrymderau; Ac a’u tywysodd hwynt ar hyd y ffordd uniawn, i fyned i ddinas gyfanheddol. O na foliannent yr ARGLWYDD am ei ddaioni, a’i ryfeddodau i feibion dynion!