Salm 107:19-22
Salm 107:19-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yna gwaeddasant ar yr ARGLWYDD yn eu cyfyngder, a gwaredodd ef hwy o'u hadfyd; anfonodd ei air ac iachaodd hwy, a gwaredodd hwy o ddistryw. Bydded iddynt ddiolch i'r ARGLWYDD am ei gariad, ac am ei ryfeddodau i ddynolryw. Bydded iddynt ddod ag offrymau diolch, a dweud am ei weithredoedd mewn gorfoledd.
Salm 107:19-22 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ond dyma nhw’n galw ar yr ARGLWYDD yn eu trybini, a dyma fe’n eu hachub o’u trafferthion. Dyma fe’n gorchymyn iddyn nhw gael eu hiacháu, ac yn eu hachub nhw o bwll marwolaeth. Gadewch iddyn nhw ddiolch i’r ARGLWYDD am ei gariad ffyddlon, a’r pethau rhyfeddol mae wedi’u gwneud ar ran pobl! Gadewch iddyn nhw gyflwyno offrymau diolch iddo, a chanu’n llawen am y cwbl mae wedi’i wneud!
Salm 107:19-22 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yna y gwaeddasant ar yr ARGLWYDD yn eu cyfyngder; ac efe a’u hachubodd o’u gorthrymderau. Anfonodd ei air, ac iachaodd hwynt, ac a’u gwaredodd o’u dinistr. O na foliannent yr ARGLWYDD am ei ddaioni, a’i ryfeddodau i feibion dynion! Aberthant hefyd aberth moliant; a mynegant ei weithredoedd ef mewn gorfoledd.