Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salm 27:1-14

Salm 27:1-14 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Mae’r ARGLWYDD yn rhoi golau i mi, ac yn fy achub i; does gen i ofn neb. Mae’r ARGLWYDD fel caer yn fy amddiffyn i, does neb yn fy nychryn. Pan oedd dynion drwg yn ymosod arna i i’m llarpio fel ysglyfaeth – nhw (y gelynion oedd yn fy nghasáu), ie, nhw wnaeth faglu a syrthio. Petai byddin gyfan yn dod yn fy erbyn i, fyddai gen i ddim ofn. Petai rhyfel ar fin torri allan, byddwn i’n gwbl hyderus. Gofynnais i’r ARGLWYDD am un peth – dyma beth dw i wir eisiau: dw i eisiau aros yn nhŷ’r ARGLWYDD am weddill fy mywyd, i ryfeddu ar haelioni’r ARGLWYDD, a myfyrio yn ei deml. Bydd e’n fy nghuddio i pan dw i mewn perygl; bydda i’n saff yn ei babell. Bydd yn fy ngosod i ar graig ddiogel, allan o gyrraedd y gelyn. Bydda i’n ennill y frwydr yn erbyn y gelynion sydd o’m cwmpas. Bydda i’n cyflwyno aberthau i Dduw, ac yn gweiddi’n llawen. Bydda i’n canu ac yn cyfansoddi cerddoriaeth i foli’r ARGLWYDD. O ARGLWYDD, gwranda arna i’n galw arnat ti. Bydd yn garedig ata i. Ateb fi! Dw i’n gwybod dy fod ti’n dweud, “Ceisiwch fi.” Felly, ARGLWYDD, dw i’n dy geisio di. Paid troi cefn arna i. Paid gwthio fi i ffwrdd. Ti sy’n gallu fy helpu i. Paid gwrthod fi! Paid â’m gadael i. O Dduw, ti ydy’r un sy’n fy achub i. Hyd yn oed petai dad a mam yn troi cefn arna i, byddai’r ARGLWYDD yn gofalu amdana i. Dangos i mi sut rwyt ti eisiau i mi fyw, O ARGLWYDD. Arwain fi ar hyd y llwybr iawn, achos mae’r rhai sy’n fy nghasáu yn fy ngwylio i. Paid gadael i’m gelynion i gael eu ffordd. Mae tystion celwyddog yn codi ac yn tystio yn fy erbyn i. Ond dw i’n gwybod yn iawn y bydda i’n profi daioni’r ARGLWYDD ar dir y byw! Gobeithia yn yr ARGLWYDD. Bydd yn ddewr ac yn hyderus. Ie, gobeithia yn yr ARGLWYDD.

Salm 27:1-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Yr ARGLWYDD yw fy ngoleuni a'm gwaredigaeth, rhag pwy yr ofnaf? Yr ARGLWYDD yw cadernid fy mywyd, rhag pwy y dychrynaf? Pan fydd rhai drwg yn cau amdanaf i'm hysu i'r byw, hwy, fy ngwrthwynebwyr a'm gelynion, fydd yn baglu ac yn syrthio. Pe bai byddin yn gwersyllu i'm herbyn, nid ofnai fy nghalon; pe dôi rhyfel ar fy ngwarthaf, eto, fe fyddwn yn hyderus. Un peth a ofynnais gan yr ARGLWYDD, dyma'r wyf yn ei geisio: cael byw yn nhŷ'r ARGLWYDD holl ddyddiau fy mywyd, i edrych ar hawddgarwch yr ARGLWYDD ac i ymofyn yn ei deml. Oherwydd fe'm ceidw yn ei gysgod yn nydd adfyd, a'm cuddio i mewn yn ei babell, a'm codi ar graig. Ac yn awr, fe gyfyd fy mhen goruwch fy ngelynion o'm hamgylch; ac offrymaf finnau yn ei deml aberthau llawn gorfoledd; canaf, canmolaf yr ARGLWYDD. Gwrando arnaf, ARGLWYDD, pan lefaf; bydd drugarog wrthyf, ac ateb fi. Dywedodd fy nghalon amdanat, “Ceisia ei wyneb”; am hynny ceisiaf dy wyneb, O ARGLWYDD. Paid â chuddio dy wyneb oddi wrthyf, na throi ymaith dy was mewn dicter, oherwydd buost yn gymorth i mi; paid â'm gwrthod na'm gadael, O Dduw, fy Ngwaredwr. Pe bai fy nhad a'm mam yn cefnu arnaf, byddai'r ARGLWYDD yn fy nerbyn. Dysg i mi dy ffordd, O ARGLWYDD, arwain fi ar hyd llwybr union, oherwydd fy ngwrthwynebwyr. Paid â'm gadael i fympwy fy ngelynion, oherwydd cododd yn f'erbyn dystion celwyddog sy'n bygwth trais. Yr wyf yn sicr y caf weld daioni'r ARGLWYDD yn nhir y rhai byw. Disgwyl wrth yr ARGLWYDD, bydd gryf a gwrol dy galon a disgwyl wrth yr ARGLWYDD.

Salm 27:1-14 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Yr ARGLWYDD yw fy ngoleuni a’m hiachawdwriaeth; rhag pwy yr ofnaf? yr ARGLWYDD yw nerth fy mywyd; rhag pwy y dychrynaf? Pan nesaodd y rhai drygionus, sef fy ngwrthwynebwyr a’m gelynion, i’m herbyn, i fwyta fy nghnawd, hwy a dramgwyddasant ac a syrthiasant. Pe gwersyllai llu i’m herbyn, nid ofna fy nghalon: pe cyfodai cad i’m herbyn, yn hyn mi a fyddaf hyderus. Un peth a ddeisyfais i gan yr ARGLWYDD, hynny a geisiaf; sef caffael trigo yn nhŷ yr ARGLWYDD holl ddyddiau fy mywyd, i edrych ar brydferthwch yr ARGLWYDD, ac i ymofyn yn ei deml. Canys yn y dydd blin y’m cuddia o fewn ei babell: yn nirgelfa ei babell y’m cuddia; ar graig y’m cyfyd i. Ac yn awr y dyrcha efe fy mhen goruwch fy ngelynion o’m hamgylch: am hynny yr aberthaf yn ei babell ef ebyrth gorfoledd; canaf, ie, canmolaf yr ARGLWYDD. Clyw, O ARGLWYDD, fy lleferydd pan lefwyf: trugarha hefyd wrthyf, a gwrando arnaf. Pan ddywedaist, Ceisiwch fy wyneb; fy nghalon a ddywedodd wrthyt, Dy wyneb a geisiaf, O ARGLWYDD. Na chuddia dy wyneb oddi wrthyf; na fwrw ymaith dy was mewn soriant: fy nghymorth fuost; na ad fi, ac na wrthod fi, O DDUW fy iachawdwriaeth. Pan yw fy nhad a’m mam yn fy ngwrthod, yr ARGLWYDD a’m derbyn. Dysg i mi dy ffordd, ARGLWYDD, ac arwain fi ar hyd llwybrau uniondeb, oherwydd fy ngelynion. Na ddyro fi i fyny i ewyllys fy ngelynion: canys gau dystion, a rhai a adroddant drawster, a gyfodasant i’m herbyn. Diffygiaswn, pe na chredaswn weled daioni yr ARGLWYDD yn nhir y rhai byw. Disgwyl wrth yr ARGLWYDD: ymwrola, ac efe a nertha dy galon: disgwyl, meddaf, wrth yr ARGLWYDD.