Salm 39:4-5
Salm 39:4-5 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“O ARGLWYDD, beth ydy’r pwynt, faint o amser sydd gen i ar ôl? Bydda i wedi mynd mewn dim o amser! Ti wedi gwneud bywyd mor fyr. Dydy oes rhywun yn ddim byd yn dy olwg di. Mae bywyd y cryfaf yn mynd heibio fel tarth.” Saib
Rhanna
Darllen Salm 39Salm 39:4-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“ARGLWYDD, pâr imi wybod fy niwedd, a beth yw nifer fy nyddiau; dangos imi mor feidrol ydwyf. Wele, yr wyt wedi gwneud fy nyddiau fel dyrnfedd, ac y mae fy oes fel dim yn dy olwg; yn wir, chwa o wynt yw pob un byw, Sela
Rhanna
Darllen Salm 39Salm 39:4-5 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
ARGLWYDD, pâr i mi wybod fy niwedd, a pheth yw mesur fy nyddiau; fel y gwypwyf o ba oedran y byddaf fi. Wele, gwnaethost fy nyddiau fel dyrnfedd; a’m heinioes sydd megis diddim yn dy olwg di: diau mai cwbl wagedd yw pob dyn, pan fo ar y gorau. Sela.
Rhanna
Darllen Salm 39