Salm 40:1-4
Salm 40:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Bûm yn disgwyl a disgwyl wrth yr ARGLWYDD, ac yna plygodd ataf a gwrando fy nghri. Cododd fi i fyny o'r pwll lleidiog, allan o'r mwd a'r baw; gosododd fy nhraed ar graig, a gwneud fy nghamau'n ddiogel. Rhoddodd yn fy ngenau gân newydd, cân o foliant i'n Duw; bydd llawer, pan welant hyn, yn ofni ac yn ymddiried yn yr ARGLWYDD. Gwyn ei fyd y sawl sy'n rhoi ei ymddiriedaeth yn yr ARGLWYDD, ac nad yw'n troi at y beilchion, nac at y rhai sy'n dilyn twyll.
Salm 40:1-4 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ar ôl disgwyl yn frwd i’r ARGLWYDD wneud rhywbeth, dyma fe’n troi ata i; roedd wedi gwrando arna i’n gweiddi am help. Cododd fi allan o’r pwll lleidiog a’r mwd trwchus. Rhoddodd fy nhraed ar graig, a gwneud yn siŵr fy mod i ddim yn baglu. Roedd gen i gân newydd i’w chanu – cân o fawl i Dduw! Bydd llawer o bobl yn gweld beth wnaeth e, ac yn dod i drystio’r ARGLWYDD. Mae’r un sy’n trystio’r ARGLWYDD wedi’i fendithio’n fawr. Dydy e ddim yn troi am help at bobl sy’n brolio’u hunain ac yn dweud celwydd.
Salm 40:1-4 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Disgwyliais yn ddyfal am yr ARGLWYDD; ac efe a ymostyngodd ataf, ac a glybu fy llefain. Cyfododd fi hefyd o’r pydew erchyll, allan o’r pridd tomlyd; ac a osododd fy nhraed ar graig, gan hwylio fy ngherddediad. A rhoddodd yn fy ngenau ganiad newydd o foliant i’n DUW ni: llawer a welant hyn, ac a ofnant, ac a ymddiriedant yn yr ARGLWYDD. Gwyn ei fyd y gŵr a osodo yr ARGLWYDD yn ymddiried iddo; ac ni thry at feilchion, nac at y rhai a wyrant at gelwydd.