Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salm 44:1-26

Salm 44:1-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

O Dduw, clywsom â'n clustiau, dywedodd ein hynafiaid wrthym am y gwaith a wnaethost yn eu dyddiau hwy, yn y dyddiau gynt â'th law dy hun. Gyrraist genhedloedd allan, ond eu plannu hwy; difethaist bobloedd, ond eu llwyddo hwy; oherwydd nid â'u cleddyf y cawsant y tir, ac nid â'u braich y cawsant fuddugoliaeth, ond trwy dy ddeheulaw a'th fraich di, a llewyrch dy wyneb, am dy fod yn eu hoffi. Ti yw fy Mrenin a'm Duw, ti sy'n rhoi buddugoliaeth i Jacob. Trwot ti y darostyngwn ein gelynion, trwy dy enw y sathrwn ein gwrthwynebwyr. Oherwydd nid yn fy mwa yr ymddiriedaf, ac nid fy nghleddyf a'm gwareda. Ond ti a'n gwaredodd rhag ein gelynion a chywilyddio'r rhai sy'n ein casáu. Yn Nuw yr ydym erioed wedi ymffrostio, a chlodforwn dy enw am byth. Sela Ond yr wyt wedi'n gwrthod a'n darostwng, ac nid ei allan mwyach gyda'n byddinoedd. Gwnei inni gilio o flaen y gelyn, a chymerodd y rhai sy'n ein casáu yr ysbail. Gwnaethost ni fel defaid i'w lladd, a'n gwasgaru ymysg y cenhedloedd. Gwerthaist dy bobl am y nesaf peth i ddim, ac ni chefaist elw o'r gwerthiant. Gwnaethost ni'n warth i'n cymdogion, yn destun gwawd a dirmyg i'r rhai o'n hamgylch. Gwnaethost ni'n ddihareb ymysg y cenhedloedd, ac y mae'r bobloedd yn ysgwyd eu pennau o'n plegid. Y mae fy ngwarth yn fy wynebu beunydd, ac yr wyf wedi fy ngorchuddio â chywilydd o achos llais y rhai sy'n fy ngwawdio a'm difrïo, ac oherwydd y gelyn a'r dialydd. Daeth hyn i gyd arnom, a ninnau heb dy anghofio na bod yn anffyddlon i'th gyfamod. Ni throdd ein calon oddi wrthyt, ac ni chamodd ein traed o'th lwybrau, i beri iti ein hysigo yn nhrigfa'r siacal a'n gorchuddio â thywyllwch dudew. Pe baem wedi anghofio enw ein Duw ac estyn ein dwylo at dduw estron, oni fyddai Duw wedi canfod hyn? Oherwydd gŵyr ef gyfrinachau'r galon. Ond er dy fwyn di fe'n lleddir drwy'r dydd, a'n trin fel defaid i'w lladd. Ymysgwyd! Pam y cysgi, O Arglwydd? Deffro! Paid â'n gwrthod am byth. Pam yr wyt yn cuddio dy wyneb ac yn anghofio'n hadfyd a'n gorthrwm? Y mae ein henaid yn ymostwng i'r llwch, a'n cyrff yn wastad â'r ddaear. Cyfod i'n cynorthwyo. Gwareda ni er mwyn dy ffyddlondeb.

Salm 44:1-26 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Dŷn ni wedi clywed, O Dduw, ac mae’n hynafiaid wedi dweud wrthon ni beth wnest ti yn eu dyddiau nhw, ers talwm. Gyda dy nerth symudaist genhedloedd, a rhoi ein hynafiaid yn y tir yn eu lle. Gwnaethost niwed i’r bobl oedd yn byw yno, a gollwng ein hynafiaid ni yn rhydd. Nid eu cleddyf roddodd y tir iddyn nhw; wnaethon nhw ddim ennill y frwydr yn eu nerth eu hunain. Na! Dy nerth di, dy allu di, dy ffafr di tuag atyn nhw wnaeth y cwbl! Roeddet ti o’u plaid nhw. Ti ydy fy mrenin i, O Dduw, yr un sy’n rhoi’r fuddugoliaeth i bobl Jacob! Ti sy’n ein galluogi ni i yrru’n gelynion i ffwrdd. Gyda dy nerth di dŷn ni’n sathru’r rhai sy’n ein herbyn. Dw i ddim yn dibynnu ar fy mwa, ac nid cleddyf sy’n rhoi’r fuddugoliaeth i mi. Ti sy’n rhoi’r fuddugoliaeth dros y gelyn. Ti sy’n codi cywilydd ar y rhai sy’n ein casáu ni. Duw ydy’r un i frolio amdano bob amser. Dw i am foli ei enw’n ddi-baid. Saib Ond bellach rwyt ti wedi’n gwrthod ni, a’n cywilyddio ni! Ti ddim yn mynd allan gyda’n byddin ni. Ti’n gwneud i ni ffoi oddi wrth ein gelynion. Mae’n gelynion wedi cymryd popeth oddi arnon ni. Rwyt wedi’n rhoi fel defaid i’w lladd a’u bwyta. Rwyt wedi’n chwalu ni drwy’r gwledydd. Rwyt wedi gwerthu dy bobl am y nesa peth i ddim, wnest ti ddim gofyn pris uchel amdanyn nhw. Rwyt wedi’n dwrdio ni o flaen ein cymdogion. Dŷn ni’n destun sbort i bawb o’n cwmpas. Mae’r cenhedloedd i gyd yn ein gwawdio ni, pobl estron yn gwneud hwyl am ein pennau ni. Does gen i ddim mymryn o urddas ar ôl. Dw i’n teimlo dim byd ond cywilydd o flaen y gelyn dialgar sy’n gwawdio ac yn bychanu. Mae hyn i gyd wedi digwydd i ni, er na wnaethon ni dy wrthod di na thorri amodau ein hymrwymiad i ti. Dŷn ni ddim wedi bod yn anffyddlon i ti, nac wedi crwydro oddi ar dy lwybrau di. Ac eto rwyt ti wedi’n sathru ni, a’n gadael ni fel adfail lle mae’r siacaliaid yn byw. Rwyt wedi’n gorchuddio ni gyda thywyllwch dudew. Petaen ni wedi anghofio enw Duw ac estyn ein dwylo mewn gweddi at ryw dduw arall, oni fyddai Duw wedi gweld hynny? Mae e’n gwybod beth sy’n mynd drwy’n meddyliau ni. O’th achos di dŷn ni’n wynebu marwolaeth drwy’r amser, dŷn ni fel defaid ar eu ffordd i’r lladd-dy. Symud! O ARGLWYDD, pam wyt ti’n cysgu? Deffra! Paid gwrthod ni am byth! Pam wyt ti’n edrych i ffwrdd, ac yn cymryd dim sylw o’r ffordd dŷn ni’n cael ein cam-drin a’n gorthrymu? Dŷn ni’n gorwedd ar ein hwynebau yn y llwch, ac yn methu codi oddi ar lawr. Tyrd, helpa ni! Dangos dy ofal ffyddlon, a gollwng ni’n rhydd.

Salm 44:1-26 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

DUW, clywsom â’n clustiau, ein tadau a fynegasant i ni, y weithred a wnaethost yn eu hamser hwynt, yn y dyddiau gynt. Ti â’th law a yrraist allan y cenhedloedd, ac a’u plennaist hwythau; ti a ddrygaist y bobloedd, ac a’u cynyddaist hwythau. Canys nid â’u cleddyf eu hun y goresgynasant y tir, nid eu braich a barodd iachawdwriaeth iddynt; eithr dy ddeheulaw di, a’th fraich, a llewyrch dy wyneb, oherwydd i ti eu hoffi hwynt. Ti, DDUW, yw fy Mrenin: gorchymyn iachawdwriaeth i Jacob. Ynot ti y cilgwthiwn ni ein gelynion: yn dy enw di y sathrwn y rhai a gyfodant i’n herbyn. Oherwydd nid yn fy mwa yr ymddiriedaf; nid fy nghleddyf chwaith a’m hachub. Eithr ti a’n hachubaist ni oddi wrth ein gwrthwynebwyr, ac a waradwyddaist ein caseion. Yn NUW yr ymffrostiwn trwy y dydd; a ni a glodforwn dy enw yn dragywydd. Sela. Ond ti a’n bwriaist ni ymaith, ac a’n gwaradwyddaist; ac nid wyt yn myned allan gyda’n lluoedd. Gwnaethost i ni droi yn ôl oddi wrth y gelyn: a’n caseion a anrheithiasant iddynt eu hun. Rhoddaist ni fel defaid i’w bwyta; a gwasgeraist ni ymysg y cenhedloedd. Gwerthaist dy bobl heb elw, ac ni chwanegaist dy olud o’u gwerth hwynt. Gosodaist ni yn warthrudd i’n cymdogion, yn watwargerdd ac yn wawd i’r rhai ydynt o’n hamgylch. Gosodaist ni yn ddihareb ymysg y cenhedloedd, yn rhai i ysgwyd pen arnynt ymysg y bobloedd. Fy ngwarthrudd sydd beunydd ger fy mron, a chywilydd fy wyneb a’m todd: Gan lais y gwarthruddwr a’r cablwr; oherwydd y gelyn a’r ymddialwr. Hyn oll a ddaeth arnom; eto ni’th anghofiasom di, ac ni buom anffyddlon yn dy gyfamod. Ni throdd ein calon yn ei hôl, ac nid aeth ein cerddediad allan o’th lwybr di; Er i ti ein curo yn nhrigfa dreigiau, a thoi drosom â chysgod angau. Os anghofiasom enw ein DUW, neu estyn ein dwylo at dduw dieithr: Oni chwilia DUW hyn allan? canys efe a ŵyr ddirgeloedd y galon. Ie, er dy fwyn di y’n lleddir beunydd; cyfrifir ni fel defaid i’w lladd. Deffro, paham y cysgi, O ARGLWYDD? cyfod, na fwrw ni ymaith yn dragywydd. Paham y cuddi dy wyneb? ac yr anghofi ein cystudd a’n gorthrymder? Canys gostyngwyd ein henaid i’r llwch: glynodd ein bol wrth y ddaear. Cyfod yn gynhorthwy i ni, a gwared ni er mwyn dy drugaredd.