Salm 88:1-5
Salm 88:1-5 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
O ARGLWYDD, y Duw sy’n fy achub, dw i’n gweiddi am dy help bob dydd ac yn gweddïo arnat ti bob nos. Plîs, cymer sylw o’m gweddi, a gwranda arna i’n galw arnat ti. Dw i mewn helynt dychrynllyd; yn wir, dw i bron marw. Mae pobl yn fy ngweld i fel un sydd ar ei ffordd i’r bedd, dyn cryf wedi colli ei nerth i gyd ac wedi’i adael i farw a’i daflu i fedd cyffredin gyda’r milwyr eraill sydd wedi’u lladd – y rhai wyt ti ddim yn eu cofio bellach, ac sydd ddim angen dy ofal bellach.
Salm 88:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
O ARGLWYDD, Duw fy iachawdwriaeth, liw dydd galwaf arnat, gyda'r nos deuaf atat. Doed fy ngweddi hyd atat, tro dy glust at fy llef. Yr wyf yn llawn helbulon, ac y mae fy mywyd yn ymyl Sheol. Ystyriwyd fi gyda'r rhai sy'n disgyn i'r pwll, ac euthum fel un heb nerth, fel un wedi ei adael gyda'r meirw, fel y lladdedigion sy'n gorffwys mewn bedd— rhai nad wyt yn eu cofio bellach am eu bod wedi eu torri ymaith o'th afael.
Salm 88:1-5 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
O ARGLWYDD DDUW fy iachawdwriaeth, gwaeddais o’th flaen ddydd a nos. Deued fy ngweddi ger dy fron: gostwng dy glust at fy llefain. Canys fy enaid a lanwyd o flinderau; a’m heinioes a nesâ i’r beddrod. Cyfrifwyd fi gyda’r rhai a ddisgynnant i’r pwll: ydwyf fel gŵr heb nerth. Yn rhydd ymysg y meirw, fel rhai wedi eu lladd, yn gorwedd mewn bedd, y rhai ni chofi mwy; a hwy a dorrwyd oddi wrth dy law.