Datguddiad 13:11-12
Datguddiad 13:11-12 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Gwelais anghenfil arall wedyn, yn codi o’r ddaear. Roedd ganddo ddau gorn yr un fath ag oen, ond roedd yn swnio fel draig. Roedd yn gweinyddu holl awdurdod yr anghenfil cyntaf ar ei ran. Roedd yn gwneud i bawb oedd yn byw ar y ddaear addoli yr anghenfil cyntaf, sef yr un â’r anaf marwol oedd wedi cael ei iacháu.
Datguddiad 13:11-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Gwelais fwystfil arall yn codi allan o'r ddaear, ac yr oedd ganddo ddau gorn fel oen, ond yn llefaru fel draig. Yr oedd ganddo holl awdurdod y bwystfil cyntaf, i'w arfer ar ei ran. Gwnaeth i'r ddaear a'i thrigolion addoli'r bwystfil cyntaf, hwnnw yr iachawyd ei glwyf marwol.
Datguddiad 13:11-12 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac mi a welais fwystfil arall yn codi o’r ddaear; ac yr oedd ganddo ddau gorn tebyg i oen, a llefaru yr oedd fel draig. A holl allu’r bwystfil cyntaf y mae efe yn ei wneuthur ger ei fron ef, ac yn peri i’r ddaear ac i’r rhai sydd yn trigo ynddi addoli’r bwystfil cyntaf, yr hwn yr iachawyd ei glwyf marwol.