Datguddiad 13:14-15
Datguddiad 13:14-15 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Am ei fod yn gallu gwneud gwyrthiau ar ran yr anghenfil cyntaf, llwyddodd i dwyllo pawb oedd yn perthyn i’r ddaear. Rhoddodd orchymyn iddyn nhw godi delw er anrhydedd i’r anghenfil cyntaf oedd wedi’i anafu â’r cleddyf ac eto’n dal yn fyw. Ond hefyd cafodd y gallu i roi anadl i’r ddelw o’r anghenfil cyntaf, fel bod hwnnw’n gallu siarad a gwneud i bawb oedd yn gwrthod addoli’r ddelw gael eu lladd.
Datguddiad 13:14-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Twyllodd drigolion y ddaear trwy'r arwyddion y rhoddwyd iddo hawl i'w cyflawni ar ran y bwystfil, gan ddweud wrth drigolion y ddaear am wneud delw i'r bwystfil a glwyfwyd â'r cleddyf ac a ddaeth yn fyw. Rhoddwyd iddo hawl i roi anadl i ddelw'r bwystfil, er mwyn i ddelw'r bwystfil lefaru a pheri lladd pob un nad addolai ddelw'r bwystfil.
Datguddiad 13:14-15 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac y mae efe yn twyllo’r rhai sydd yn trigo ar y ddaear, trwy’r rhyfeddodau y rhai a roddwyd iddo ef eu gwneuthur gerbron y bwystfil; gan ddywedyd wrth drigolion y ddaear, am iddynt wneuthur delw i’r bwystfil yr hwn a gafodd friw gan gleddyf, ac a fu fyw. A chaniatawyd iddo ef roddi anadl i ddelw’r bwystfil, fel y llefarai delw’r bwystfil hefyd, ac y parai gael o’r sawl nid addolent ddelw’r bwystfil, eu lladd.