Datguddiad 13:16-17
Datguddiad 13:16-17 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Roedd hefyd yn gorfodi pawb i gael marc ar eu llaw dde ac ar eu talcen – ie, pawb, yn fach a mawr, cyfoethog a thlawd, dinasyddion rhydd a chaethweision. Doedd neb yn gallu prynu a gwerthu oni bai fod ganddyn nhw’r marc, sef enw’r anghenfil neu’r rhif sy’n cyfateb i’w enw.
Datguddiad 13:16-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Parodd y bwystfil i bawb, yn fach a mawr, yn gyfoethog a thlawd, yn rhydd a chaeth, dderbyn nod ar eu llaw dde neu ar eu talcen, ac nid oedd neb i allu prynu neu werthu ond y sawl yr oedd ganddo'r nod, sef enw'r bwystfil neu rif ei enw.
Datguddiad 13:16-17 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac y mae yn peri i bawb, fychain a mawrion, cyfoethogion a thlodion, rhyddion a chaethion, dderbyn nod ar eu llaw ddeau, neu ar eu talcennau: Ac na allai neb na phrynu na gwerthu, ond yr hwn a fyddai ganddo nod, neu enw’r bwystfil, neu rifedi ei enw ef.