Datguddiad 21:23-24
Datguddiad 21:23-24 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Does dim angen golau haul na lleuad yn y ddinas chwaith, am fod ysblander Duw ei hun yn ei goleuo hi, a’r Oen fel lamp yn ei goleuo hi. Bydd y cenhedloedd yn byw yn ei golau, a bydd brenhinoedd y ddaear yn dod â’u holl gyfoeth i mewn iddi hi.
Rhanna
Darllen Datguddiad 21Datguddiad 21:23-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Nid oes ar y ddinas angen na'r haul na'r lleuad i dywynnu arni, oherwydd gogoniant Duw sy'n ei goleuo, a'i lamp hi yw'r Oen. A bydd y cenhedloedd yn rhodio yn ei goleuni hi, a brenhinoedd y ddaear yn dwyn eu gogoniant i mewn iddi.
Rhanna
Darllen Datguddiad 21Datguddiad 21:23-24 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A’r ddinas nid rhaid iddi wrth yr haul, na’r lleuad, i oleuo ynddi: canys gogoniant Duw a’i goleuodd hi, a’i goleuni hi ydyw’r Oen. A chenhedloedd y rhai cadwedig a rodiant yn ei goleuni hi: ac y mae brenhinoedd y ddaear yn dwyn eu gogoniant a’u hanrhydedd iddi hi.
Rhanna
Darllen Datguddiad 21